Bwriad i greu parciau cenedlaethol dinesig yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
David Clubb
Disgrifiad o’r llun,

Dywed David Clubb ei fod am weld pobl yn gwerthfawrogi eu lleoedd gwyrdd lleol

Mae yna fwriad i gael mwy o barciau cenedlaethol yng Nghymru - a'r rheini yn y trefi a'r dinasoedd.

Eisoes mae Llundain yn rhoi cynllun o'r fath ar waith ac mi allai rhannau o Gymru wneud rhywbeth tebyg.

Bydd cyfarfod yn yr hydref i drafod syniad sydd â'r bwriad o gael mwy o bobl i ymddiddori yn yr amgylchedd a meddwl am ffyrdd i'w warchod.

Nid oes unrhyw feysydd penodol wedi'u clustnodi ar gyfer parc cenedlaethol - yn hytrach mae cymunedau yn cael eu hannog i ddatblygu eu syniadau eu hunain.

Byddai prosiectau posib yn cynnwys plannu coed, gwella afonydd ac uno parciau gyda'i gilydd i alluogi bywyd gwyllt i symud rhwng lleoedd gwyrdd.

Fe fyddai'r pwyslais ar annog cymunedau i ddatblygu'r hyn maen nhw'n dymuno ei weld gyda'r asedau gwyrdd lleol sydd ganddyn nhw.

"Mae'n gysyniad gwahanol iawn i'r parciau cenedlaethol sy'n bodoli eisoes - dydyn ni ddim yn bwriadu copïo'r strwythurau cynllunio," meddai David Clubb, partner gyda chwmni ymgynghori cynaliadwyedd Afallen.

"Mae hwn yn rhwydwaith cymunedol llawer mwy anffurfiol sy'n anelu at bobl i ddeall gwerth y lleoedd sydd yn lleol iawn iddyn nhw."

'Pŵer yn ôl i'r gymuned'

Yn ôl Owain Llywelyn, darlithydd mewn Tirfesureg ym Mhrifysgol De Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, byddai gan y parciau cenedlaethol dinesig ddim rheolaeth dros y broses gynllunio, ond fe fyddai ganddyn nhw ddylanwad ar benderfyniadau.

Disgrifiad o’r llun,

Credai Owain Llywelyn fod mwy o hyblygrwydd i'r syniad na systemau cynllunio arferol

"Ma' grym cynghorau wedi cael eu crebachu yn sylweddol dros y 20 mlynedd ddiwethaf - o'r herwydd mae'r system gynllunio yn llawer iawn mwy caeth nag yr oedd o," meddai.

"Mae 'na broses o ymwrthod â datblygiadau - mae'r syniad arfaethedig yma o barciau dinasol neu drefol yn llawer iawn mwy hyblyg.

"Dwi'n credu ar hyn o bryd fod y cymunedau sy'n gweld datblygiadau yn eu hardaloedd nhw'n teimlo bod ganddyn nhw ddim pŵer o gwbl a ma' hyn yn rhoi pŵer yn ôl yn eu dwylo nhw a ma' hynny'n dda o beth."