Cynlluniau i greu tanwydd awyren o wastraff dur Tata
- Cyhoeddwyd
Gallai gwastraff o weithiau dur gael ei defnyddio yn y dyfodol fel tanwydd ar gyfer awyrennau.
Mae'r cynllun yn cynnwys defnyddio nwyon o waith dur Tata ym Mhort Talbot, gydag arbenigwyr yn credu y gallai gael ei ddefnyddio ar gyfer miloedd o hediadau'r flwyddyn.
Mae Tata, ynghyd a Chyngor Castell Nedd Port Talbot a chwmni LanzaTech o America yn gweithio ar y cynllun.
Fe wnaeth Virgin Atlantic weithio gyda LanzaTech y llynedd i hedfan awyrennau rhwng Orlando a Llundain a oedd wedi'i bweru gan danwydd carbon oedd wedi'i ailgylchu.
'Agenda uchelgeisiol'
Mae hi'n amhosib osgoi gwastraff nwy yn y diwydiant dur, ac mae arbenigwyr yn credu gallai 30m galwyn o danwydd bio gael ei gynhyrchu ar gyfer y diwydiant hedfan pob blwyddyn.
"Mae gennym agenda uchelgeisiol gyda'r strategaeth yma," meddai dirprwy bennaeth Cyngor Sir Castell Nedd Port Talbot, Anthony Taylor.
"Rydym yn derbyn fod Tata yn un o'r cwmnïau mwyaf yng Nghymru o ran rhyddhau nwyon carbon, dydyn ni ddim eisiau peryglu'r ochr economaidd ond mae'n rhaid i ni daclo'r broblem amgylcheddol.
"Ond, yn economaidd, drwy gymryd rhywbeth oedd yn cael ei ystyried yn wastraff yn y gorffennol, mae'n gyfle i Tata wneud ychydig o arian o'r gwastraff maen nhw yn ei gynhyrchu.
Mae cwmni LanzaTech yn prosesu'r nwyon carbon a'i droi fewn i ethanol. Mae modd wedyn ei drawsnewid fewn i gemegau a thanwydd.
Adeiladu uned?
Dywedodd Carl Wolf, sy'n Llywydd cangen Ewropeaidd y cwmni fod y cwmni wedi datblygu technoleg sy'n gallu troi alcohol fel ethanol fewn i danwydd awyren.
"Mae hyn yn hanfodol bwysig wrth i'r diwydiant hedfan geisio cyrraedd eu targedau i leihau ei lefelau carbon," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni dur Tata: "Mae datblygu unrhyw dechnoleg i droi gwastraff CO2 o'r broses gwneud dur fewn i adnoddau gwerthfawr ar gyfer y diwydiant yn hynod bwysig.
"Mae gan LanzaTech y dechnoleg i droi gwastraff CO2 o'r broses gwneud dur fewn i ethanol ac maen nhw nawr yn ceisio am ganiatad i ddatblygu uned ar ein safle ni ym Mhort Tallbot i droi'r gwastraff fewn i danwydd awyren," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018