£3.5m i adfer hen neuadd y dref ym Maesteg
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mwy na £3.5m ganddyn nhw a'r Undeb Ewropeaidd i adfywio Neuadd y Dref Maesteg er mwyn creu canolbwynt diwylliannol i'r dref a'r ardal ehangach.
Daeth y cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.
Bydd y prosiect yn caniatáu adfywio ac ailddefnyddio'r adeilad rhestredig Gradd ll yn gyfleuster amlddefnydd, fydd yn darparu lle i gymdeithasu, dysgu, gwella sgiliau a dathlu'r dreftadaeth sy'n perthyn i gymuned y cwm.
Yn yr adeilad bydd gwasanaeth llyfrgell newydd, gwell lle ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau, theatr stiwdio, ardal benodedig i blant a Wi-Fi cyflym.
'Bywyd newydd'
Dywedodd Ms Blythyn: "Mae'r adeilad hardd a hynod bwysig yma o safbwynt pensaernïol, sydd wedi gwasanaethu'r ardal am gyhyd, yn cael bywyd newydd.
"Edrychaf ymlaen at ei weld yn ffynnu a datblygu.
"Bydd yn galluogi pobl leol i ddod ynghyd ac yn ganolbwynt cymdeithasol cymuned Maesteg.
"Yn ogystal â'r amryw adnoddau arloesol, bydd ynddo le hefyd i ddatblygu mwy o gyfleoedd dysgu a sgiliau ar y cyd ag amryw bartneriaid."
Dywedodd Mr Waters: "Canol ein trefi yw calon ein cymunedau ac mae Tasglu'r Cymoedd yn ymrwymedig i'w cefnogi, lle bo modd i ni wneud hynny, i dyfu.
"Bydd yr arian yn helpu busnesau lleol i ffynnu ac, yn ei dro, bydd hynny'n gwella ac yn ysgogi'r economi lleol gan anadlu bywyd newydd i'r hen adeilad, denu cyflogwyr newydd, creu swyddi a gwella golwg y cymunedau."
Mae'r prosiect yn rhan o'r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae'r cymorth ariannol a roddwyd i Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys £858,000 gan y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, £2,001,990 gan yr Undeb Ewropeaidd a £650,000 gan Dasglu'r Cymoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018