Rhyddhau rheithgor yn achos llofruddiaeth Cimla

  • Cyhoeddwyd
Cimla
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Phillips ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghimla fis Chwefror

Mae'r rheithgor wedi cael ei ryddhau yn achos dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio dyn 76 oed yn ei gartref.

Roedd Thomas Carney, 28 oed o Abertawe, yn gwadu llofruddio David Phillips yn ei gartref yng Nghimla, Castell-nedd ar 14 Chwefror.

Yn dilyn trafodaethau cyfreithiol dywedodd y Barnwr Eleri Rees na allai'r achos barhau, ac fe gafodd y rheithgor ei ryddhau rhag ei ddyletswyddau.

Mae disgwyl i'r achos newydd ddechrau ar 24 Chwefror 2020.