Arestio tri wedi i heddlu ganfod corff yn Llanfair-ym-Muallt
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi arestio tri pherson ar ôl canfod corff dyn yn Llanfair-ym-Muallt.
Cafodd swyddogion eu galw ar 13 Awst oherwydd pryder am les dyn yn y dref.
Cafwyd hyd i gorff y dyn wrth i'r heddlu archwilio ei gartref.
Mae dynes 28 a dyn 43 oed o Raeadr wedi cael eu harestio ar amheuaeth o rwystro claddu cyfreithlon a phriodol o gorff marw.
Mae'r heddlu hefyd wedi arestio dynes 60 oed ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae'r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.