Y Cymro sy'n hyfforddi sêr y dyfodol i Bayern Munich
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr ifanc o'r Bala ar fin gwireddu breuddwyd ar ôl cael swydd fel hyfforddwr hefo un o dimau pêl-droed mwyaf Ewrop.
Ychydig fisoedd ers graddio o Brifysgol De Cymru, ble oedd yn astudio cwrs rheoli pêl-droed a pherfformiad, bydd Mael Evans, 21, yn symud i'r Unol Daleithiau er mwyn dechrau ei waith newydd gyda Bayern Munich.
Fe ddechreuodd Mael ei yrfa hyfforddi chwe blynedd yn ôl yn Y Bala, ond prin oedd yn dychmygu llai na degawd yn ddiweddarach y byddai'n hyfforddi i bencampwyr Yr Almaen.
"Pan gefais yr alwad ffôn i gadarnhau fy mod wedi cael y swydd, roedd fy wyneb yn bictiwr, doeddwn methu â chredu'r peth.
"Mae gan nifer o glybiau mawr Ewrop - Roma, PSG a Bayern Munich - academis yn America, felly mae cael cyfle i weithio gyda chwaraewyr allai fod yn cynrychioli'r clwb yn y dyfodol yn anrhydedd," meddai wrth Cymru Fyw.
Bydd Mael yn hedfan allan ganol mis Medi ac yn dechrau ar ei waith fel swyddog datblygu pêl-droed cyn symud ymlaen i hyfforddi tîm dan-12 y clwb yn America.
Yn wahanol i lawer, roedd yn gwybod yn 15 oed bod ei fryd ar hyfforddi, yn hytrach na chwarae pêl-droed.
"Ar ôl cael fy hyfforddi gan chwaraewyr enwog fel [Marcel] Desailly a Jens Lehmann a sylweddoli sut yr oedden nhw yn gwneud pethau mor syml, drwy'r ffordd yr oedden nhw'n disgrifio sefyllfaoedd gwahanol, roeddwn yn gwybod mai dyna oeddwn eisiau ei wneud.
"Fe ddechreuais wedyn hyfforddi tra'n chwarae i'r Bala cyn i mi adael am y brifysgol."
Roedd elfen o lwc yn ei benodiad, gan fod cyfaill iddo - oedd eisoes yn gweithio fel hyfforddwr i bencampwyr Yr Almaen - wedi anfon ei CV at Bayern Munich heb i Mael wybod.
Ond mi allai'r flwyddyn nesaf fod wedi gallu troi allan yn wahanol iawn. Cyn derbyn y swydd gyda Bayern Munich, fe gafodd Mael hefyd gynnig swydd gyda chlwb mawr arall yn Ewrop.
Roedd pencampwyr Yr Eidal, Juventus, yn awyddus iawn i'w arwyddo fel un o'i hyfforddwyr yn Saudi Arabia, ond roedd teulu Mael yn bryderus o'i weld yn symud yno i fyw.
Dywedodd tad Mael, Dewi Evans: "Yn Saudi Arabia oedd y cynnig i weithio 'efo Juventus, ac fel rhieni doedden ni ddim yn rhy hapus.
"Er bod genai ffrind yno'n gweithio doedd o ddim yn siŵr fod Saudi Arabia'n le delfrydol i fachgen 21 oed fyw."
Mae Mael wedi cael cyfnod yn yr UDA yn y gorffennol yn hyfforddi, felly roedd cael cyfle i ddychwelyd yn gyfle gwych iddo ddatblygu ei sgiliau a cheisio darganfod seren ifanc y dyfodol.
"Be' mae Bayern Munich wedi 'neud ydy partneru 'efo un o'r academis mwyaf yn America sef Global Premier Soccer.
"Beth sy'n digwydd ydy eu bod nhw'n trio cael y chwaraewyr gorau i gyd at ei gilydd ac wedyn dosbarthu'r chwaraewyr gorau un ai i chwarae yn Yr Almaen neu i glybiau mawr yn yr MLS (Major League Soccer) yn America," meddai.
"Mi fydda i'n mynd o gwmpas rhannau o Massachusetts a mentora rhai hyfforddwyr, yn ogystal â hynny mi fydda i'n hyfforddi tîm dan-12 oed Bayern Munich.
"Dwi'm yn gwybod yn union beth i ddisgwyl, mi fydd yn brofiad gwych ond dwi'n edrych ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019