Llygredd Afon Cefni yn lladd 100 o bysgod yn Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Gweithiwr yn yr afonFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau fod tua 100 o bysgod wedi eu lladd o ganlyniad i lygredd mewn afon ar Ynys Môn.

Cafodd swyddogion eu galw i archwilio'r digwyddiad yn Afon Cefni, Llangefni brynhawn dydd Mercher.

Dywedodd CNC bod tua 100 o bysgod marw mewn darn 200m o'r afon ond eu bod nhw wedi canfod achos y llygredd ac wedi'i stopio.

Ond mae'r corff yn nodi eu bod nhw'n parhau i archwilio a monitro'r sefyllfa.