Dechrau'r gwaith o adfer palmant stryd yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Stryd Mostyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stryd Mostyn yn un o strydoedd siopa prysuraf Sir Conwy

Bydd gwaith yn dechrau er mwyn adfer ffordd a phalmant yn Llandudno ddydd Llun yn dilyn nifer o gwynion bod pobl yn baglu arno.

Dywedodd adroddiad gan Gyngor Sir Conwy ym mis Rhagfyr bod "nifer cynyddol o gwynion" wedi bod ynglŷn â Stryd Mostyn.

Yn ôl y cyngor mae'r sefyllfa yn gymhleth am fod yr awdurdod yn gyfrifol am rannau o'r palmant yn unig, gyda'r siopau'n gyfrifol am y rhannau eraill.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei orffen erbyn 25 Hydref, ond mae hynny'n "ddibynnol ar y tywydd", medd y cyngor.

Bydd palmentydd newydd yn cael eu gosod yn y rhannau sy'n eiddo i'r cyngor, a bydd rhai mannau parcio ynghau am gyfnodau.

O'r £250,000 o gyllid mae'r awdurdod wedi ei glustnodi ar gyfer adfer ffyrdd y sir, bydd £187,000 yn cael ei wario ar y prosiect yma.