Eos yn lansio cronfa nawdd i helpu cerddorion Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Roberts fod y nawdd ar gael "heb y rhwystrau arferol"

Mae Eos, yr Asiantaeth Hawliau Darlledu wedi sefydlu elusen sy'n cynnig nawdd er budd y diwydiant cerddorol Gymraeg.

Mae Cronfa Nawdd Eos bellach yn agored i geisiadau gan artistiaid, cyfansoddwyr a hyrwyddwyr.

Bydd unrhyw un sy'n gwneud bywoliaeth yn llawn neu yn rhan amser drwy gerddoriaeth Cymraeg neu berfformio mewn cynyrchiadau Cymraeg hefyd yn gymwys.

Mae'r gronfa yn cynnig pecynnau nawdd o £500 i hyd at £2,000.

'Syml a didrafferth'

Dywedodd Dafydd Roberts ar ran bwrdd Eos: "Y bwriad yw ceisio cynorthwyo'r diwydiant cerddorol Gymraeg drwy gynnig nawdd mewn ffordd syml a didrafferth, a heb y rhwystrau arferol.

"Gan mai arian preifat yw'r gronfa, bydd modd ei ddefnyddio hefyd fel arian cyfatebol mewn unrhyw gais addas arall."

Cafodd Eos ei sefydlu yn 2012 fel ymateb i'r newid polisi yn PRS, gyda'r bwriad o "sicrhau breindaliadau teg i gyfansoddwyr a chwmnïau cyhoeddi yng Nghymru".

Bellach mae gan Eos gytundeb trwyddedu 'blanced' gyda'r BBC ac S4C, ac mae'r corff casglu wedi llwyddo i ddosbarthu dros £500,000 i'w aelodau ers dechrau 2013.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd gyntaf o geisiadau fydd 30 Medi, ac mae'r ffurflen gais ar gael ar wefan newydd Eos.