Heddlu'n defnyddio technoleg wynebau yn gyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae barnwyr yn yr her gyfreithiol i'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau wedi dyfarnu fod Heddlu De Cymru wedi defnyddio'r dechnoleg yn gyfreithlon.
Dywedodd Mr Ustus Swift a'r Arglwydd Ustus Haddon-Cave fod y llu wedi dilyn y rheolau a defnyddio'r dechnoleg yn briodol.
Dyma'r tro cyntaf i unrhyw lys yn y byd ystyried defnydd y dechnoleg.
Cafodd adolygiad barnwrol ei gynnal ym mis Mai eleni wedi i Ed Bridges o Gaerdydd honni fod ei hawliau dynol wedi cael eu torri pan gafodd ei lun ei dynnu wrth iddo wneud ei siopa Nadolig.
Roedd y grŵp hawliau sifil, Liberty, yn ei gefnogi gan ddadlau bod tynnu lluniau pobl mewn mannau cyhoeddus heb eu caniatâd gyfystyr â chymryd olion bysedd neu DNA heb eu caniatâd neu gydsyniad.
Ond mae'r barnwyr wedi dweud bod yr heddlu wedi defnyddio technoleg adnabod wynebau (AFR) ar adegau penodol ac roedd yr adegau hynny yn briodol.
Mae Liberty yn dweud y bydd Ed Bridges yn apelio'r penderfyniad.
Mae Heddlu'r De wedi bod yn un o ddau lu sydd wedi bod yn rhan o gynllun peilot ac wedi defnyddio y math o AFR gafodd ei drafod yn yr achos yma 15 o weithiau.
Ar hyn o bryd does dim canllawiau sy'n rheoli'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau (AFR), ac mae nifer wedi mynegi pryder nad yw'n gweithio'n dda gyda menywod na phobl o leiafrifoedd ethnig.
Mae grŵp ymgyrchu arall wedi galw am atal y defnydd o'r feddalwedd, gan ddweud ei fod "bron yn gyfan gwbl wallus".
Dangosodd ffigyrau ddaeth i law Big Brother Watch o ganlyniad i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth bod 98% o 'gydweddiadau' o'r dechnoleg yn anghywir yn achos Heddlu'r Met yn Llundain, ac roedd y ffigwr ar gyfer Heddlu De Cymru yn 91%.
Yn ardal Heddlu'r De fe ddaeth i'r amlwg bod 2,451 allan o 2,685 o 'gydweddiadau' yn anghywir, yn ôl y grŵp.
Mae Heddlu'r De yn defnyddio fan mewn digwyddiadau fel gemau chwaraeon mawr neu gyngherddau cerddorol. Mae'r fan wedi'i farcio'n glir.
Wrth i wynebau'r dorf gael eu sganio, mae'r delweddu'n cael eu cymharu â "rhestr wylio" o bobl sy'n cael eu hamau o fod wedi troseddu, neu hyd yn oed bobl fregus.
Os yw'r meddalwedd yn paru delwedd sydd ar y rhestr, mae aelod o staff wedyn yn mynd at y person i ofyn am gerdyn adnabod. Mae'r data biometreg yn cael ei ddileu ar ôl 31 diwrnod.
Canlyniadau 'pellgyrhaeddol'
Yn ystod yr adolygiad barnwrol fe wnaeth y Comisiynydd Gwybodaeth ddadlau nad yw'r fframwaith cyfreithiol i'r llu ddefnyddio AFR yn ddigonol, gyda phryderon y gallai'r system gael ei hacio.
Ychwanegodd ei dîm cyfreithiol y gallai'r system - pe byddai'n cael ei defnyddio'n gyson a heb reolau llymach - gael ei ddefnyddio i ddilyn symudiadau ac arferion pobl gyffredin.
Gan fod 12.5 miliwn o ddelweddau ar fas data cenedlaethol yr heddlu, gan gynnwys rhai sydd heb eu cael yn euog o unrhyw drosedd, roedd yn dadlau hefyd fod angen rheolau ynglŷn â pha ddelweddau sy'n cael eu cadw ar y rhestr gwylio.
Mae Mr Ustus Swift a'r Arglwydd Ustus Haddon-Cave wedi dweud yn y gorffennol fod yr achos yn un "pwysig" sydd â chanlyniadau "allai fod yn bellgyrhaeddol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2017