Toriadau am wneud 'niwed parhaol' i gymunedau

  • Cyhoeddwyd
Swyddog iechydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaethau iechyd yr amgylchedd yn wynebu toriadau, medd arweinwyr cyngor

Mae arweinwyr cynghorau sir Cymru wedi rhybuddio fod toriadau i'w hincwm yn bygwth gwasanaethau allweddol a bod peryg y bydd yn gwneud "niwed parhaol" i gymunedau.

Mewn llythyr at aelodau'r Cynulliad ac aelodau seneddol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn dweud fod angen £245m yn ychwanegol ar y 22 gyngor yng Nghymru o fis Mawrth 2020 er mwyn talu am godiadau cyflog yn unig.

Ar ôl i wasanaethau fel llyfrgelloedd ac iechyd amgylcheddol ddioddef toriadau, dywedodd CLlLC ei bod yn bosib mai staff ysgolion a gwasanaethau casglu sbwriel allai ddioddef nesaf.

"Mae'n swnio fel tiwn gron ond ar ôl 10 mlynedd rydym wedi dod at ddiwedd y ffordd," meddai pennaeth CLlC, Debbie Wilcox.

Dywedodd y gallai setliad anffafriol olygu llai o athrawon neu lai o arian ar gyfer gofal cymdeithasol.

Mae cynghorau'n derbyn 75% o'u harian gan Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn derbyn arian o San Steffan.

Ond mae'r arian sy'n dod gan y llywodraeth wedi lleihau bron i 20% dros gyfnod o ddegawd, ac er gwaethaf codiad yn Nhrethi Cyngor mae'r cyfanswm arian sydd ar gael wedi gostwng.

Mae Ms Wilcox, sydd hefyd yn arweinydd ar Gyngor Casnewydd, wedi ysgrifennu'r llythyr i gyd-fynd â chyhoeddiad disgwyliedig gan Lywodraeth y DU ynglŷn â faint o arian fydd ar gael i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Bwriad llythyr Ms Wilcox yw sicrhau cefnogaeth gwleidyddion yn San Steffan a Bae Caerdydd "er mwyn amddiffyn gwasanaethau lleol pwysig".

Mae'r llythyr yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn awdurdodau i "ryw raddau" er gwaethaf "toriadau sylweddol yn ystod cyfnod hir o gynni".

Bwlch ariannol

Ond mae hefyd yn dweud fod codiadau i gyflogau a phensiynau 149,000 o weithwyr - codiadau nad oes modd eu hosgoi - yn golygu rhagor o bwysau.

Dywedodd Ms Wilcox y bydd cynghorau'n gorfod gwneud toriadau i wasanaethau sydd hyd yma wedi cael eu diogelu.

Yr opsiwn arall yw gweld y canran lle mae gan y cynghorau ddewis ble i wario eu harian yn gostwng i 5% o'u holl incwm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i wariant gynyddu 4% yn uwch na chwyddiant er mwyn ateb y galw am wasanaethau gofal i bobl hŷn

"Heb fwy o adnoddau fe fydd yn rhaid i ysgolion dorri 'nôl cryn dipyn ar lefelau staffio athrawon a staff arall yn yr ysgolion," meddai CLlLC.

"Fe fydd yn rhaid i'r trothwy ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol godi.

"Bydd llai i wario ar wasanaethau allweddol fel datblygiad economaidd, diogelu'r cyhoedd, casglu sbwriel a diwylliant."

Mae'r llythyr yn galw am fformiwla fydd yn cysylltu'r arian sy'n dod i lywodraeth leol gyda chyllideb Llywodraeth Cymru.

Lle mae'r pwysau?

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod nifer o feysydd dan bwysau eithriadol, gan gynnwys:

  • Cynnydd yn y galw am wasanaethau plant, gyda chynnydd o 36% yn nifer y plant yn y system gofal dros naw mlynedd;

  • Bron i 77,000 o bobl yn derbyn gwasanaethau cymdeithasol - gyda'r galw yn cynyddu. Mae'r sector yn gyfrifol am 17% o wariant cynghorau;

  • Y cynghorau am godi mwy o dai a gwella cyflwr hen dai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd;

  • Bosib y bydd yna fygythiad i wasanaethau ailgylchu;

  • Dywed CLlC fod yr arian ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd wedi gostwng 26% ers 2009-10.

Dywedodd y cynghorau eu bod yn gyflogwyr pwysig - gydag un o bob 10 o bobl yn gweithio iddynt - gyda gwariant o £3.5bn y flwyddyn.