Galw am uno cynghorau'r de ddwyrain i hybu twf economaidd
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorau sir Caerdydd, Casnewydd a Bryste wedi galw am "bwerdy cydweithio" economaidd fyddai'n cysylltu de ddwyrain Cymru a gorllewin Lloegr.
Mae pwerdai cydweithio rhanbarthol eisoes wedi cael eu cynnig yn Lloegr fel strategaeth i gynyddu twf economaidd.
Mae adroddiad yn dweud byddai "Pwerdy Cydweithio Gorllewinol" yn gweithio i wella diwydiant a chysylltiadau trafnidiaeth.
Yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, mae gan y ddau ranbarth "gryfderau mawr allai fod o fantais i'w gilydd".
'Ail siapio'
Mae'r Pwerdy Cydweithio yn y gogledd yn cael ei gysylltu gyda'r cyn-Ganghellor, George Osborne, a'i fwriad oedd ceisio rhoi hwb i'r economi ehangach na de ddwyrain Lloegr.
Roedd yn ffocysu ar wella cysylltiadau trafnidiaeth, cynyddu buddsoddiadau a datganoli rhai pwerau i feiri etholedig.
Mae grŵp trafod wedi dweud fod y syniad wedi cael ei danseilio gan lymder, er gwaetha'r ffaith fod yr economi'n symud yn y "cyfeiriad cywir".
Mae'r adroddiad, sydd wedi cael ei ysgrifennu gan Metro Dynamics ac sydd wedi'i gomisiynu gan dri chyngor yn dweud:
"Mae'r map economeg o Brydain yn cael ei ail siapio gan ddatganoli a'r ymddangosiad o'r pwerdai rhanbarthol allai yrru twf drwy gydweithredu rhanbarthol.
"Ond, mae yna ddarn o'r jig-so ar goll yng ngorllewin Prydain, ar hyd yr M4."
Mae'n awgrymu gallai pwerdy cydweithredol ymestyn o Abertawe i Swindon yn y gorllewin a Bath yn y dwyrain a cyn belled i'r gogledd a Tewkesbury.
Yn ôl yr adroddiad mae yna dair dinas yn rhan o'r cynlluniau ac un arall i'w ychwanegu, ond does dim syniad o bwerdy cydweithredol eto'n bodoli ar gyfer y rhanbarth.
Mae'r adroddiad yn dadlau fod pwerdai cydweithredol sydd eisoes yn bodoli yng nghanolbarth Lloegr wedi "llwyddo i ddenu cyllid sylweddol gan y Llywodraeth gan gynnwys buddsoddiadau".
"Mae yna gryfderau yn economi de Cymru a gorllewin Lloegr," yn ôl Mr Thomas wrth iddo drafod diogelwch y rhyngrwyd a diwydiannau awyrofod ar raglen Sunday Politics BBC Cymru.
"Rhwng Caerdydd a Bryste, mae gennych chi'n hwb creadigol mwyaf y tu allan i Lundain, felly gadewch i ni adeiladu ar y cryfderau hynny," meddai.
"Ond y tu allan i lywodraeth leol, mae yna bobl yn gweithio ar draws y ffiniau, mae pobl yn symud rhwng Bryste a Chaerdydd drwy'r amser.
"Mae'n hen bryd i ni ddal fyny gyda'r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau."
'Angerddol dros Gymru'
Mae'r adroddiad yn dweud fod y Pwerdai Cydweithredol angen penderfynnu ar eu brand, ond mae'n awgrymu gallai "Great Western Powerhouse" fod yn enw arni.
Mae'n galw am gynlluniau integredig ar gyfer gwella ffyrdd a rheilffyrdd a strategaeth ddiwydiannol trosfwaol i ddenu diwydiannau datblygedig.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi cefnogi'r syniad: "Rwy'n angerddol dros Gymru, ond wrth geisio denu buddsoddwyr rhyngwladol, fe fydden nhw'n edrych ar y clwstwr economaidd.
"Bydd y clwstwr ar yr ochr orllewinol y DU yn llifo i'r dwyrain-gorllewin yn hytrach na gogledd-de."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.
Mae rhaglen Sunday Politics ar ddydd Sul, 21 Gorffennaf ar BBC One Wales am 11:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2019