Cannoedd yn protestio yn erbyn atal y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod tua 700 o bobl wedi casglu ar Heol y Frenhines

Mae cannoedd o bobl wedi bod yn protestio yng Nghaerdydd yn erbyn penderfyniad y Prif Weinidog i atal y Senedd yn yr wythnosau cyn y mae disgwyl i'r DU adael yr UE.

Dywedodd yr heddlu bod tua 700 o bobl wedi casglu ar Heol y Frenhines nos Fawrth.

Roedd protest debyg yn y brifddinas dros y penwythnos, yn ogystal ag amryw o leoliadau ledled Cymru.

Daw wrth i ASau'r gwrthbleidiau a rhai Ceidwadwyr geisio pasio deddfwriaeth gyda'r nod o atal Brexit heb gytundeb.

Mae disgwyl i 34 o'r 40 AS Cymru bleidleisio o blaid cymryd rheolaeth o amserlen y Senedd.

Pwrpas y mesur yw cymryd rheolaeth o amserlen Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, fyddai yn ei dro yn caniatáu dadl ar orfodi Boris Johnson i ymestyn dyddiad Brexit tan 2020 oni bai fod ASau yn cymeradwyo cytundeb newydd, neu yn pleidleisio o blaid Brexit heb gytundeb erbyn 19 Hydref.