Doctor yn difaru peidio gorchymyn llun pelydr-X
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghorydd meddygol wnaeth fethu a chanfod fod menyw o Rhondda Cynon Taf wedi torri ei choes yn ystod hanner marathon wedi dweud y byddai yn hoffi "medru troi'r cloc yn ôl" a "gorchymyn llun pelydr-X".
Bu farw Sarah-Jayne Roche, oedd y 39 oed ac yn fam i ddau o blant, 12 diwrnod ar ôl y ras yng Nghaerdydd yn ystod llawdriniaeth i roi pin yn asgwrn y forddwyd.
Roedd hi wedi cael ataliad ar y galon.
Chafodd hi ddim gwybod ei bod wedi torri'r asgwrn yn ei choes tan y pedwerydd gwaith iddi ymweld ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Coes 'oer'
Wnaeth Dr Tim Manfield ddim gofyn am lun pelydr-X pan wnaeth ef ei gweld ar 12 Hydref er bod ei theulu yn pryderu fod ei choes yn "oer iawn".
Dywedodd yn y cwest nad oedd yn cofio'r teulu yn dweud hynny ac y byddai wedi cynnal ymchwiliad pellach pe bydden nhw wedi dweud hyn wrtho.
"Fe fyddai wedi bod yn arwydd bod y gwaed ddim yn llifo yn y goes. Does dim byd yn dod i'r cof ynglŷn â bod coes Mrs Roche yn oer," meddai.
"Pe byddai wedi bod yn oer i'w gyffwrdd fe fydden ni wedi cofnodi hyn a doedd dim tystiolaeth fod y goes wedi chwyddo."
Mae teulu Mrs Roche yn honni na wnaeth Dr Manfield ymchwiliad corffol, ond gwadu hynny wnaeth ef.
Fe ysgrifennodd yn ei nodiadau fod ganddi boen yng nghyhyrau pedryben (quadriceps) ei choes.
"Roeddwn i yn meddwl mai anaf i'r cyhyr yn hytrach na thoriad oedd hyn. Doeddwn i ddim wedi dod ar draws rhywbeth fel hyn yn fy ngyrfa o'r blaen…
"Mae anafiadau rhedeg fel arfer yn rhai gyda'r cyhyrau. Fe fydden ni'n hoffi pe byddai modd troi'r cloc yn ôl a gorchymyn y llun pelydr-X," meddai.
Anaf i'r cyhyr
Mae'r cwest ym Mhontypridd wedi clywed yn barod bod Mrs Roche wedi datblygu ceulad gwaed yn ei gwythiennau am fod ei choes, oedd wedi ei thorri, yn golygu nad oedd hi'n gallu symud.
Roedd hi'n rhedeg yr hanner marathon er mwyn codi arian ar gyfer elusen Parkinsons wedi i'w thad ddatblygu'r cyflwr.
Ond ar ôl saith milltir bu'n rhaid iddi roi'r gorau iddi am fod ganddi boen "yn saethu fyny ei choes". Yn y dyddiau wedyn fe aeth hi i'r uned frys deirgwaith mewn "poen arteithiol".
Dywedodd Dr Manfield wrth y cwest nad oedd yn cofio ei bod mewn poen ofnadwy neu byddai wedi cynnig tabledi lladd poen iddi yn yr ysbyty "yr adeg hynny".
"Wnaeth hi ddim cyrraedd mewn ambiwlans ond trwy drafnidiaeth breifat ac roeddwn i yn trin hyn fel anaf i linyn y gar. Roedd hi'n anghyffredin bod y dolur wedi symud o'r cefn i flaen y glun.
"Ond roeddwn i dal yn meddwl mai anaf i'r cyhyr oedd o felly fe wnes i ei chyfeirio at yr adran ffisiotherapi."
Mae hefyd yn dweud ei fod wedi llenwi ffurflen iddi gael prawf uwchsain ond chafodd y gwaith papur yma byth ei ganfod.
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019