Plant i gael chwarae yn Gymraeg yng nghanol Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y cylch chwarae cyntaf i blant Cymry yng nghanol Llundain wedi disgrifio'i balchder bod y cynllun wedi ei atgyfodiad a hynny yn ei leoliad gwreiddiol.
Bydd Elinor Talfan Delaney ymhlith y gwesteion yn lansiad swyddogol cylch newydd ddydd Sadwrn yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain.
Yr eglwys, ger Oxford Street, oedd cartref y cylch gwreiddiol am ryw 18 mis nes i ymgyrch fomio'r IRA orfodi'r trefnwyr i'w symud i Ysgol Gymraeg Llundain, oedd yn Willesden Green ar y pryd.
"O'dd e'n gyfnod brawychus iawn i bawb," medd Mrs Delaney, sydd bellach yn dweud bod "shwt bleser" bod yna gylch unwaith eto yn yr eglwys ar gyfer Cymry sy'n dymuno i'w plant chwarae a chymdeithasu yn Gymraeg yn ardal brysuraf y ddinas.
Anawsterau teithio
Roedd hi'n fam i ddau fachgen ac yn nabod mamau eraill â chysylltiadau Cymreig "pan wnaethon ni ddechrau cyfarfod yn nhai ein gilydd fel bod y plant yn gallu chwarae gyda'i gilydd" yn 1972.
Fe symudodd y sesiynau i'r eglwys ac roedd tua 12 o blant yn cwrdd yno ddwywaith yr wythnos.
Aeth Mrs Delaney ar gwrs i fod yn arweinydd cylch chwarae a chofrestru'r cylch gyda mudiadau meithrin Cymru a'r DU.
"Ond wrth gwrs roedd ymgyrch fomio wedi datblygu ac yn mynd yn waeth," meddai. "Am bob bom oedd yn ffrwydro roedd yna sawl hoax.
"Roedd gorsafoedd y Tube yn cau a dyna oedd yr anhawster. Roedd hi'n anodd i rieni deithio gyda phlant bach ar y Tube ac felly doedden nhw ddim yn gallu cyrraedd y cylch."
Yn dilyn sgyrsiau gyda Hugh a Verina Matthews - gweinidog Eglwys y Bedyddwyr yn Castle Street ar y pryd, a'i wraig, oedd yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Llundain - fe benderfynwyd symud y cylch i'r ysgol.
Mae'r ysgol ei hun bellach wedi ailgartrefu yn Hanwell, ym mwrdeisdref Ealing - ardal fwyaf gorllewinol ardal cod post Llundain.
Ond yn ôl un o'r bobl sy'n gyfrifol am atgyfodiad Cylch Canol Llundain, dydi hi ddim yn hawdd i bawb deithio i fanno.
"Fi ga'th y syniad gyda Iestyn, nani y ferch," meddai Ffion Flockhart, sy'n byw "ar bwys Tower Bridge" ac yn gyfreithwraig gyda chwmni gwasanaethau ariannol rhyngwladol.
"Oeddan ni'n meddwl fasa'n neis i'r rhieni neu'r gwarchodwyr allu mynd â'r plant i rywle yng nghanol y ddinas.
"Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn gwneud gwaith gwych ond mae'n cymryd gormod o amser i rai ohonon ni i deithio i Hanwell."
Milltir sgwâr
Mae Ms Flockhart yn gobeithio y bydd y cylch newydd fod yn gyfleus i bobl fel hi sy'n gweithio yn, neu ar bwys, ardal fasnachol a hanesyddol y Square Mile ac yn dymuno i'w plant gael cymaint o brofiadau trwy'r Gymraeg â phosib.
Mae'r rhieny all fod â diddordeb yn cynnwys "cyfreithwyr, cyfrifwyr, bargyfreithwyr, pobl sy'n gweithio yn y diwydiant yswiriant, y cyfryngau neu San Steffan".
"Roeddwn i, yn gywir, yn yr un sefyllfa yn y 70au," meddai Mrs Delaney - cyn-ymddiriedolwr a chyn-gadeirydd rheolwyr Ysgol Gymraeg Llundain, sydd hefyd wedi cofnodi hanes yr ysgol.
"Mae shwt bleser i weld bod nhw'n dechrau'r cylch yma."
"Yn sicr bydd rhai o'r plant yma yn mynd ymlaen i'r ysgol Gymraeg.
"Mae gyda chi cylch Dreigiau Bach tua'r de [yng Nghapel Clapham Junction], y cylch yn Hanwell, a nawr cylch yng nghanol y ddinas.
"Mae'n sicrhau parhad - mae archwilwyr yr ysgol wedi nodi bod yna ffrwd i gael."
Dywedodd Ms Flockhart: "Mae'n bwysig iawn i mi bod hwn yn llwyddiant.
"Dydyn ni ddim mo'yn colli cenhedlaeth o blant sydd ag un rhiant yn unig yn siarad Cymraeg [yn niffyg cylch o fewn cyrraedd yn hwylus].
"Mae'r Ysgol Gymraeg newydd ddathlu pen-blwydd arbennig ac rydyn ni eisiau i'r diddordeb yn yr iaith gynyddu yn y ddinas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2018