Ysgol Gymraeg Llundain yn dathlu ei phen-blwydd yn 60
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed ac mewn capel, ar gyrion Oxford Street, ynghanol y brifddinas brynhawn Sadwrn bydd oedfa arbennig i nodi'r achlysur.
Sioned Jones, yn wreiddiol o Lanberis, yw pennaeth yr ysgol ar hyn o bryd. Cyn dod i Lundain bu'n dysgu ym Mhatagonia a chyn hynny yn Y Rhondda.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Yn rhyfedd iawn mae 'na rhywbeth reit debyg am yr ardaloedd rwy' wedi dysgu ynddynt - pob ardal â chymuned agos, pawb yn ffrindiau, yn barod iawn i wirfoddoli ac yn rhannu yr un nod.
"Yma yn Llundain mae cyfraniad rhieni a chyfeillion wastad wedi bod yn bwysig.
"Mae elw cyngerdd yr haf llynedd, er enghraifft, wedi'n galluogi i adeiladu toiled. Mae'r cyngerdd haf yn ddigwyddiad pwysig ac yn cael ei gynnal yn rhywle crand fel yr Inner Temple neu mewn gwesty yn Richmond.
"Mae tâl am ddod i'r ysgol ond fydden ni'm yn gwrthod neb chwaith os ydynt am gael addysg Gymraeg."
'Pwysig clywed y Gymraeg'
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i'r ysgol - £90,000 y flwyddyn ers 2012. Mae'r cytundeb hwnnw yn dod i ben ymhen dwy flynedd.
Yn y gorffennol mae rhai wedi beirniadu'r cymorth ariannol ond yn ôl Sioned Jones, "nid talu am addysg Gymraeg yn Llundain mae'r arian ond hybu y defnydd o'r Gymraeg.
"Mae 300 o ieithoedd a mwy i'w clywed yn Llundain ac mae'n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei chlywed."
Mae'r ysgol, a gafodd ei sefydlu yn Ysgol Hungerford yn Camden ar ôl i grŵp o rieni Cymry Llundain benderfynu cynnig addysg Gymraeg i blant y ddinas, bellach wedi ei lleoli yng nghanolfan gymunedol Hanwell.
Un o'r sefydlwyr oedd Kynric Lewis, bargyfreithiwr oedd yn byw gyda'i deulu yn Llundain ar y pryd.
Ysgrifennodd at nifer o enwau adnabyddus i grybwyll y syniad ac roedd rhai yn fwy cefnogol na'i gilydd - un o'r rhai mwyaf cefnogol oedd yr actor Richard Burton.
Yn ôl Emyr Lewis, mab Kynric Lewis ac a oedd yn ddisgybl yn yr ysgol, mae Ysgol Gymraeg Llundain, yn "cynnal yr iaith yn y ddinas ac yn adnodd gwerthfawr tu hwnt - mae'n bleser ei gweld yn cael ei chefnogi gan arian cyhoeddus."
Canlyniadau da
"Dyw pethau ddim wastad wedi bod yn hawdd," meddai Sioned Jones, "ond rwy'n teimlo bod pethau'n edrych yn well.
"Mae 27 bellach yn dod i'r ysgol ac mae lle i 40 - cynt roedden ni methu cymryd mwy na 30.
"Mae 'na ddau ddosbarth - un i'r Cyfnod Sylfaen a'r llall i Gyfnod Allweddol 2. Mae 'na blant o bob oedran yn y dosbarthiadau - fel sy'n digwydd mewn ysgolion gwledig.
"Dwim yn gweld y peth yn anfantais - fel arall i ddweud y gwir. Mae cyfle i'r rhai ieuengaf elwa ar brofiad y rhai hŷn.
"Wedi gadael yr ysgol mae'r rhan fwyaf yn mynd i ysgol uwchradd leol a rhai yn symud i Gymru.
"Mae eu canlyniadau yn hwyrach mewn bywyd yn dda iawn ac ar ben hynny mae y rhan fwyaf yn cael A* yn TGAU Cymraeg.
"Mae'n gallu bod yn anodd pan mae OFSTED yn dod i'n harolygu - ry'n yn dilyn cwriwcwlwm Cymru ond wrth gwrs mae gofynion OFSTED yn wahanol - ac mae'n anodd iddyn nhw ddeall, ar adegau, nad ydym yn cyflwyno'r Saesneg yn syth."
'Yma o Hyd'
Mae'r plant yn edrych ymlaen yn fawr at y gwasanaeth ac mi fyddant yn canu Ffosfelen a 'Dwi'n Gymro, Dwin Gymraes'.
Un oedd yn ddisgybl yn yr ysgol tan iddi fynd i'r ysgol uwchradd wythnos ddiwethaf oedd Courtney Manel. Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r ysgol.
"Fy hoff beth drwy gydol fy amser yn yr ysgol oedd yr iaith - rwy'n falch i fi allu dysgu iaith unigryw, yr iaith Gymraeg.
"Roedd pawb mor gyfeillgar ac rydw i'n ddiolchgar iawn. Y peth enfawr yw ein bod ni yma o hyd."
Dyma'r cyntaf o'r digwyddiadau dathlu - fe fydd yna ragor ac mewn cyngerdd mawreddog, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghapel Jewin yn hwyrach, bydd y plant yn canu cerdd y maent hwy wedi'i chyfansoddi yng nghwmni Anni Llŷn ac Ifor ap Glyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2015