Dyn, 58, wedi marw ar safle ailgylchu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar safle ailgylchu yng Nghaerdydd brynhawn Mercher.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod dyn 58 oed o'r Barri wedi marw ar ôl y digwyddiad yn Atlantic Waste Recycling yn Nhredelerch.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 16:30 wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng gweithiwr a pheiriant.
Dywedodd Atlantic Waste Recycling bod ymchwiliad i "ddigwyddiad difrifol" wedi dechrau ac felly na fyddai'n briodol gwneud sylw pellach.
Mae'r heddlu yn ymchwilio ar y cyd â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, a dywedon nhw nad oes unrhyw un wedi ei arestio.