Rhedwr wedi marw 'o ganlyniad i esgeulustod', medd cwest

  • Cyhoeddwyd
Sarah-Jayne RocheFfynhonnell y llun, Lluniau'r teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah-Jayne Roche yn rhedeg yr hanner marathon gyda'i gŵr, Steven

Mae cwest wedi dyfarnu mai oherwydd esgeulustod y bu farw menyw 39 oed o Rondda Cynon Taf, lai na phythefnos ar ôl torri coes wrth redeg hanner marathon Caerdydd.

Dywedodd y crwner wrth gofnodi rheithfarn naratif i farwolaeth Sarah-Jayne Roche o Feddau bod yna fethiannau dybryd ar ran clinigwyr.

Bu farw'r fam i ddau o blant ar ôl cael ataliad ar y galon ar 19 Hydref 2018 - 12 diwrnod ar ôl y ras yn ystod llawdriniaeth i roi pin yn ei choes.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi ategu eu cydymdeimlad i'r teulu, gan ddweud bod newidiadau eisoes wedi cael eu gwneud er mwyn "ceisio rhwystro methiannau yn y system rhag digwydd yn y dyfodol".

Eisiau 'troi'r cloc yn ôl'

Clywodd y cwest ym Mhontypridd bod ymgynghorydd meddygol wedi methu â chanfod ei bod wedi torri asgwrn ei choes yn ystod y ras, a bod Mrs Roche ond wedi cael gwybod beth oedd wedi digwydd yn ystod ei phedwerydd ymweliad ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Dywedodd Dr Tim Manfield wrth y gwrandawiad y byddai'n "hoffi pe byddai modd troi'r cloc yn ôl a gorchymyn y llun pelydr-x" pan welodd Mrs Roche ar 12 Hydref, gan feddwl "mai anaf i'r cyhyr yn hytrach na thoriad oedd hyn".

Gwadodd honiad ei theulu ei fod wedi methu â chynnal ymchwiliad corff.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah-Jayne Roche yn gweithio fel cynorthwydd addysg yn Ysgol Uwchradd Treorci

Roedd Mrs Roche yn rhedeg yr hanner marathon er mwyn codi arian ar gyfer elusen clefyd Parkinson wedi i'w thad ddatblygu'r cyflwr.

Bu'n rhaid iddi roi'r gorau iddi ar ôl saith milltir am fod ganddi boen "yn saethu fyny ei choes".

Yn ystod y dyddiau canlynol fe aeth i'r uned frys deirgwaith mewn "poen arteithiol".

Pan ymwelodd â'r ysbyty am y tro cyntaf, dywedodd meddygon ei bod wedi torri llinyn y gar, a'i chynghori i gymryd paracetamol a rhoi rhew ar ran poenus y goes.

'Byddai wedi goroesi'

Dywedodd yr uwch-grwner gweithredol, Graeme Hughes bod yna "fethiant i roi gofal meddygol sylfaenol i Sarah-Jayne Roche" a'i fod yn credu bod tri chyfle pwysig wedi eu colli i gymryd "y cam syml o drefnu pelydr-X".

"Roedd yna danamcangyfrif difrifol ynghylch cyflwr Mrs Roche. Mae'n amherthnasol bod hwn yn doriad prin ac anarferol. Byddai pelydr-X syml wedi ei ganfod."

Ychwanegodd: "Roedd yna fethiannau dybryd gan glinigwyr i ganfod y toriad ac fe gyfrannodd hynny at ddatblygiad thrombosis gwythïen ddofn [DVT]... wnaeth arwain at ataliad ar y galon."

"Mae tystiolaeth Mr Kamal, arweinydd clinigol meddyginiaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi fy helpu i ddod i'r casgliad y byddai Mrs Roche wedi goroesi petai hi wedi cael pelydr-X ar 7,8, neu 12 Hydref.

"Arweiniodd oedi gyda'r diagnosis at DVT ac yna llawdriniaeth fwy helaeth."

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah-Jayne Roche yn fam i ddau o fechgyn, 12 ac 8 oed

Mae Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi cynnig ymddiheuriad diffuant i deulu a ffrindiau Mrs Roche am y methiant yn ei gofal.

"Nid yw geiriau'n gysur digonol yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond fe hoffwn ni sicrhau ei theulu bod newidiadau eisoes wedi cael eu gwneud er mwyn ceisio rhwystro methiannau yn y system rhag digwydd yn y dyfodol," meddai Mr Kamal Asaad.

"Cafodd ymchwiliad llawn i'r gofal ei gynnal yn syth wedi ei marwolaeth, ac mae camau wedi cael eu cymryd i fonitro'r methiannau a gafodd eu darganfod.

"Mae hynny'n cynnwys cryfhau ein proses o wneud penderfyniadau clinigol, gan gynnwys gofyn am archwiliad pelydr-x, yn ogystal â'n trefniannau ar gyfer asesiadau ac ymchwiliadau manwl cyn dod i benderfyniad ar ddiagnosis terfynol.

"Rydyn ni'n derbyn dyfarniad y crwner, ac fe fyddwn ni nawr yn adolygu'r holl ganlyniadau er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael gyda'r holl fethiannau."