Trawsblannu arennau wedi'u heintio â hepatitis C

  • Cyhoeddwyd
Lorraine CarpenterFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lorraine Carpenter yn un o'r ddau berson cyntaf i gael y driniaeth

Mae arennau sydd wedi'u heintio â hepatitis C wedi cael eu trawsblannu'n llwyddiannus o roddwyr i gleifion.

Mae meddygon yn credu mai dyma yw'r driniaeth gyntaf o'i math yn y DU.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ei bod yn arwyddocaol am ei bod yn cynyddu nifer y bobl sy'n gallu rhoi organau.

Mae cleifion sy'n derbyn yr aren heintiedig wedyn yn ei drin gyda thabledi dros gyfnod o 12 wythnos er mwyn gwella o'r haint.

Lorraine Carpenter oedd un o'r cleifion cyntaf i dderbyn trawsblaniad o'r math yma ym mis Mai, ac mae hi ar fin gorffen ei chyfnod o 12 wythnos o driniaeth.

'Dim i'w golli'

"Cyn cael trawsblaniad aren ro'n i wedi bod yn cael dialysis pob nos am ryw saith mis," meddai.

"Rwy'n berson positif felly wnes i ddim gadael iddo gael gormod o effaith arna i ond ro'n i yn ei gweld hi'n anodd cynllunio i wneud unrhyw beth.

"Pan wnaeth y tîm ofyn fyddwn i'n ystyried aren gyda hepatitis C wnes i ddim oedi - fe wnes i neidio ar y cyfle.

"Ro'n i'n teimlo fel bod gen i ddim i'w golli."

Dywedodd Ms Carpenter bod y meddygon "wedi llwyddo i roi rhyddid i mi".

"Ers y llawdriniaeth mae fy nhriniaeth i wella o'r haint wedi mynd yn dda, ac rwy'n disgwyl cael gwared arno'n llwyr yn fuan iawn," meddai.

'Diogel ac effeithiol'

Yr amcangyfrif yw bod 12,000 o bobl â hepatitis C yng Nghymru.

Roedd 236 o bobl yn disgwyl am drawsblaniad yng Nghymru ym mis Mehefin, ac roedd 177 o'r rheiny'n disgwyl am aren.

Dywedodd Dr Sarah Browne, wnaeth arwain y cynllun yn Ysbyty Athrofaol Cymru: "Diolch i argaeledd cyffuriau gwrth-firol ar draws GIG Cymru rydyn ni wedi galluogi llawer mwy o bobl i roi arennau a gwella bywydau cleifion sy'n disgwyl i dderbyn aren."

Ychwanegodd Dr Ahmed Elsharkawy, oedd yn gyfrifol am drawsblaniad Ms Carpenter, bod gwledydd eraill sy'n gwneud hyn wedi profi ei fod yn "ddiogel ac effeithiol".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod y datblygiad yn galluogi i fwy o bobl roi organau "sy'n gallu helpu achub mwy o fywydau".