'Bygythiadau yn erbyn cynghorwyr yn gwaethygu'

  • Cyhoeddwyd
Jayne CowanFfynhonnell y llun, Rhydian Payne
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jayne Cowan wedi cael pysgod marw wedi'u taflu i'w gardd a baw ci ar ffenestri ei chartref

Mae cynghorydd sir yng Nghaerdydd wedi dweud ei bod ar fin derbyn larwm panig er mwyn i'r heddlu ei lleoli ar frys ar ôl derbyn bygythiadau treisgar.

Mae Jayne Cowan, sy'n gynghorydd Ceidwadol yn y brifddinas, wedi cael pysgod marw wedi'u taflu i'w gardd a baw ci wedi'i ledaenu ar ffenestri ei chartref.

Fe alwodd yr heddlu ddydd Mercher ar ôl i waed gael ei rwbio ar ei char.

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio.

Manylion personol

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) - y corff sy'n cynrychioli cynghorau - wedi dweud fod 'na gynnydd mewn ymosodiadau ar gynghorwyr, gyda phlant rhai cynghorwyr yn cael eu targedu.

Mae pryderon y gallai unrhyw un fynd ar y we a dod o hyd i fanylion personol cynghorwyr gan gynnwys cyfeiriad eu cartref.

"Rwyf wedi derbyn cerdyn cydymdeimlad gyda 'gobeithio y gwnei di farw' wedi ei ysgrifennu arno a blodau meirw wedi'i hanfon i'r tŷ," meddai'r Cynghorydd Cowan, sydd wedi cynrychioli ward Riwbeina ers 20 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Jayne Cowan
Disgrifiad o’r llun,

Gwaed ar gar Jayne Cowan - mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio

"Rwyf wedi derbyn adroddiadau papur newydd ar dreisio, difrod i fy nghar, galwadau ffôn tawel - mae'n brofiad ofnus iawn."

Bellach mae'r heddlu a'r cyngor yn ystyried rhoi larwm panig iddi gyda system GPS fydd yn dynodi ei lleoliad yn syth os byddai'n gwasgu'r botwm mewn argyfwng.

'Profiadau annifyr'

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a llefarydd ar ran y WLGA, Ellen ap Gwynn, fod y bygythiadau yn erbyn cynghorwyr yn gwaethygu.

"Dwi wedi cael profiadau digon annifyr," meddai.

Disgrifiad,

Mae Ellen ap Gwynn wedi cael "profiadau digon annifyr" yn rhinwedd ei swydd

"Mae'n iawn fod pobl yn dadlau'n wleidyddol yn erbyn ei gilydd ond i wneud pwyntiau personol ac i gymryd o allan ar unigolion mewn modd personol, dwi'n credu fod hynny yn mynd tu hwnt.

"Dwi'n credu bod rhaid i bobl sefyll i fyny a dweud digon yw digon."

Ymchwiliad heddlu

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i adroddiad fod "gwaed wedi'i rhwbio ar gar oedd wedi'i barcio yn Rhiwbeina."

Mae'r llu hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd fod y digwyddiad yn gysylltiedig â digwyddiadau eraill sydd wedi'i hadrodd gan y Cynghorydd Cowan.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ei bod yn cyflawni patrols lleol a'u bod yn benderfynol i ymchwilio i bob digwyddiad cyhuddedig.