Marwolaeth Wrecsam: Dyn yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dyn arall yng nghanol Wrecsam fis diwethaf.
Roedd Philip James Long, 36 oed o Marchwiel, yn briod ac yn dad i bedwar o fechgyn.
Cafwyd hyd iddo'n anymwybodol yn Stryd y Coleg wedi i'r heddlu gael eu galw yno tua 01:40 fore Sul, 4 Awst. Bu farw ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty yn Stoke.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener, fe blediodd Matthew Curtis, o ardal Gwersyllt, yn ddieuog i ddynladdiad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes yr achos llys, sydd i ddechrau ar 20 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019