Tîm Irfon yn cyrraedd eu nod ariannol i elusen
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr cronfa a gafodd ei sefydlu yn enw ymgyrchydd iechyd o'r gogledd yn dweud eu bod o fewn dim i godi digon o arian i gyflogi nyrs seiciatryddol arbenigol ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.
Bu farw Irfon Williams, a oedd yn ymgyrchydd canser a sylfaenydd ymgyrch Hawl i Fyw, yn 46 mlwydd oed yn 2017.
Pan gafodd wybod am ei salwch aeth ati i sefydlu ymgyrch Tîm Irfon i gefnogi cleifion canser yn y gogledd drwy'r elusen Awyr Las.
Dywed ei deulu eu bod nhw nawr yn gobeithio perswadio'r awdurdod iechyd i ddefnyddio'r arian i brynu gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion cansyr.
Mae Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd yn darparu gofal a thriniaeth i bobl sydd â chanser, anhwylderau'r gwaed neu boen.
Yn ystod digwyddiad ym Mangor dros y penwythnos, lle bu criw'n nofio ar draws y Fenai rhwng pier Biwmares a Bangor, dywedodd ei deulu eu bod ar fin cyrraedd y nod ariannol i wireddu dymuniad Irfon.
"Da ni'n gobeithio dros y dyddia nesa y byddwn ni'n cyrraedd y targed o £200,000," meddai ei weddw, Rebecca Williams.
"O'dd Irfon rili ishe gweld rhywun ar Ward Alaw jest yn canolbwyntio ar iechyd meddwl y cleifion a'u teuluoedd," meddai, "a rwan mae ganddon ni gynllun i fwrw ymlaen gyda hynny."
Dywedodd Rebecca Williams, er bod ychydig o ffordd i fynd eto, eu bod nhw fel elusen yn mynd i wthio i gael hyn yn ei le o fewn y flwyddyn nesaf.
"Mae'r nyrsys mor brysur yn rhoi pain relief a'r driniaeth i'r cleifion, does ganddyn nhw ddim yr amser," meddai.
"Be da ni angen ydy cael rhywun i ganolbwyntio ar iechyd meddwl, dim jest i'r cleifion ond i deuluoedd y cleifion hefyd achos mae canser yn cael effaith fawr ar eu hiechyd meddwl.
"Mae o mor, mor bwysig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2017