Ymchwiliad i farwolaeth gweithiwr Tata ger cronfa ddŵr

  • Cyhoeddwyd
Cronfa ddŵr Eglwys Nunydd ger MargamFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni dur Tata sydd berchen cronfa ddŵr Eglwys Nunydd ger Margam

Mae'r heddlu a'r corff sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn ymchwilio ar y cyd wedi marwolaeth gweithiwr ger cronfa ddŵr sy'n cael ei rhedeg gan gwmni dur Tata.

Bu farw dyn 41 oed o ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn digwyddiad yng nghronfa Eglwys Nunydd, Margam ddydd Iau, 5 Medi.

Y gred yw bod y digwyddiad yn ymwneud â beic cwad.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Tata brynhawn Llun mai contractwr oedd y dyn fu farw.

Mae Heddlu'r De a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.