Marwolaeth Y Barri: Cyhuddo llanc 17 oed

  • Cyhoeddwyd
Harry BakerFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal dociau'r Barri yn gynnar fore Mercher, Awst 28 wedi i Harry Baker gael ei ddarganfod yn farw

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth bachgen 17 oed o Gaerdydd wedi arestio llanc 17 oed ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.

Fe gafodd y llanc ei arestio ym Mharc Manwerthu Bae Caerdydd tua 15:20.

Roedd heddlu arfog yn bresennol.

Cafodd corff Harry Baker ei ddarganfod yn ardal dociau'r Barri ar 28 Awst.

Mae wyth o bobl eraill wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ac maen nhw wedi eu cadw yn y ddalfa.

Dywed Heddlu'r De fod dau berson arall hefyd wedi eu harestio yn y Parc Manwerthu - dynion 17 ac 18 oed - ond ar faterion ar wahan gan gynnwys bod â chanabis yn eu meddiant a bygwth achosi difrod.