'Nid siopa ar-lein sydd wedi dirywio'r stryd fawr'

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o siopay gwag i'w gweld ar stryd fawr Casnewydd

Gwendid yr economi'n gyffredinol yw'r rheswm pam fod y stryd fawr mewn dinasoedd yn ei chael hi'n anodd, nid siopa ar-lein, yn ôl adroddiad.

Ychwanegodd y Centre for Cities nad torri cyfraddau busnes na chodi trethi ar werthwyr ar-lein yw'r ateb i atgyfnerthu canol dinasoedd.

Mae'r elusen yn disgrifio Abertawe a Chasnewydd fel dinasoedd "gwan", ond yn dweud bod canol Caerdydd yn "gryf".

Yn ôl yr adroddiad y ffordd i symbylu'r stryd fawr yw datblygu rhagor o swyddi â chyflogau uchel, a chreu rhwydwaith trafnidiaeth a swyddfeydd o safon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Centre for Cities yn dweud fod Caerdydd yn ddinas gref

Mae dinasoedd cryf, fel Caerdydd, yn llai dibynnol ar siopau a salonau harddwch, gyda mwy o fusnesau'n gwerthu bwyd a diod.

Yn ôl yr adroddiad mae mwy o sinemâu, lleoliadau ar gyfer y celfyddydau perfformiadol a mwy o weithwyr â rhagor o sgiliau mewn dinasoedd cryf.

Dywedodd y byddai swyddfeydd o safon a mwy o lefydd atyniadol i fwyta ac yfed yn denu busnesau sy'n fwy tebygol o roi hwb i'r economi.

Yn ôl yr elusen y brif nod i ddinasoedd gwan yw gwella sgiliau pobl leol er mwyn denu swyddi â chyflogau uwch a datblygu mwy o lefydd bwyd a diod a hamdden.

Y brif nod i ddinasoedd cryf yw sicrhau nad yw costau'n cynyddu'n ormodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abertawe yn cael ei disgrifio fel dinas wan gan yr adroddiad

Dywedodd prif weithredwr y Centre for Cities, Andrew Carter: "Mae unrhyw weithred sydd â'r nod o wella cyfleusterau dinasoedd heb gynyddu gwariant defnwyddwyr yn siŵr o fethu o safbwynt economaidd.

"Dylai polisi ganolbwyntio ar wella perfformiad economaidd dinasoedd yn gyffredinol.

"Yn hanfodol i hyn, mae'n golygu defnyddio nawdd y stryd fawr i wella sgiliau a chynyddu incwm trigolion."