Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi marwolaeth Cwmbrân
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff y dyn 76 oed mewn tŷ yn Heol Cydweli fore Mawrth
Mae dyn 55 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi i ddyn arall gael ei ganfod yn farw mewn tŷ yn Nhorfaen.
Cafodd corff y dyn 76 oed ei ganfod ar Heol Cydweli yng Nghwmbrân am tua 10:30 ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Gwent nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Bydd y dyn 55 oed, sy'n lleol i'r ardal, yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau.

Mae swyddogion fforensig wedi bod yn bresennol ar y safle
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019