Teyrnged i ddyn wedi digwyddiad cronfa ddŵr Margam

  • Cyhoeddwyd
Adam LlewellynFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn "uchel ei barch" o Ben-y-bont ar Ogwr a fu farw yn dilyn digwyddiad yng nghronfa Eglwys Nunydd, Margam.

Dywedodd teulu Adam Llewellyn, 41, ei fod yn "ŵr, mab a thad gonest, ffyddlon ac yn weithiwr caled".

Bu farw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â beic cwad ar 5 Medi.

Ychwanegodd y datganiad: "Roedd e'n gawr i'w blant, yn hael gyda'i amser ac o hyd yn helpu eraill.

"Roedd ganddo barch yn bopeth yr oedd ef a'i deulu wedi cyflawni.

"Roedd yn ddyn uchel ei barch yn y gymuned leol a'r gymuned amaethyddol, ac mae'r teimlad o golled yn dyst i gariad Adam a'i ymroddiad i'w deulu.

"Rydym wedi ei'n torri gan yr hyn sydd wedi digwydd ac am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a charedigrwydd yn yr amser trist hwn."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mr Llewellyn yn dilyn digwyddiad yng nghronfa ddŵr Eglwys Nunydd ger Margam

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran cwmni dur Tata, perchnogion y gronfa ddŵr, mai contractwr oedd y dyn fu farw.

Mae Heddlu'r De a'r gweithgor iechyd a diogelwch yn ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth.