Ailystyried presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn ffair arfau

  • Cyhoeddwyd
DSEIFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r digwyddiad eleni, sy'n cael ei gynnal yn Llundain rhwng 10-13 Medi

Bydd y prif weinidog yn cynnal adolygiad o bresenoldeb Llywodraeth Cymru yn un o ffeiriau arfau mwyaf y byd.

Dywedodd Mark Drakeford fod gan Lywodraeth Cymru stondin yn y digwyddiad "i gefnogi cwmnïau pwysig o Gymru" sy'n ymwneud â seiber-ddiogelwch, "nid yn uniongyrchol yn yr ardal arfau".

Ond yn ôl Leanne Wood, AC Plaid Cymru, mae presenoldeb y llywodraeth "mewn digwyddiad mor ffiaidd yn warthus".

Mae Llywodraeth y DU wedi gwahodd cynrychiolwyr o "wledydd blaenoriaeth hawliau dynol", gan gynnwys Israel a Saudi Arabia, i fynychu digwyddiad Defence and Security Equipment International (DSEI) yn Llundain.

Ym mis Mehefin, dywedodd barnwyr fod penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu gwerthu arfau i Saudi Arabia, sy'n ymwneud â'r rhyfel yn Yemen, yn anghyfreithlon.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn penderfyniad y Llys Apêl bod risg amlwg y gallai'r arfau gael eu defnyddio i fynd yn groes i gyfraith ddyngarol ryngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

DSEI yw un o ffeiriau arfau mwyaf y byd

Mae'r DSEI, a gynhelir bob dwy flynedd, yn cael ei noddi gan Weinyddiaeth Amddiffyn Llywodraeth y DU a'r Sefydliad Amddiffyn a Diogelwch, sy'n rhan o'r Adran Fasnach Ryngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod â phresenoldeb yn y digwyddiad am yr wyth mlynedd ddiwethaf ac fe wnaeth gweinidogion o Gymru fynychu yn 2015 a 2017.

'Pwysig i'r economi'

Dywedodd Ms Wood AC, llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol: "Mae'r ffaith fod llywodraeth Lafur Cymru yn noddwr a bod ganddi stondin mewn digwyddiad mor ffiaidd yn warthus a dylid ei gondemnio'n ddigamsyniol.

"Mae hwn yn ddigwyddiad lle bydd arfau ac offer rhyfela yn amrywio o nwy dagrau a thaflegrau i awyrennau ymladd a llongau rhyfel yn cael eu hyrwyddo a'u masnachu rhwng llywodraethau sy'n adnabyddus am gam-drin hawliau dynol a thorri cyfraith ddyngarol ryngwladol, fel Saudi Arabia a'r Aifft."

Dywedodd Mr Drakeford: "De-ddwyrain Cymru sydd â'r clwstwr mwyaf o gwmnïau sy'n tyfu yn y sector seiber-ddiogelwch yn y Deyrnas Unedig gyfan.

"Mae'n rhan bwysig iawn o'n heconomi.

"Mae angen i'r cwmnïau hynny allu arddangos yr hyn sydd ganddyn nhw i'w gynnig i bobl sydd eisiau prynu eu cynhyrchion - dyna pam y byddwn ni'n eu cefnogi yn y digwyddiad hwnnw.

"Ond byddaf yn adolygu ai dyma'r ffordd orau i gefnogi'r cwmnïau hynny o hyn ymlaen."