Proms yn y Parc BBC Cymru'n dychwelyd i Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Martin Fry o ABCFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd seren bop yr 80au, Martin Fry o ABC yn arwain y dathlu ym Mharc Singelton

Bydd dathliad dwbl go arbennig ym Mharc Singelton yn Abertawe nos Sadwrn.

Fel rhan o ddathliadau Abertawe yn 50 oed fel dinas, bydd Proms yn y Parc BBC Cymru yn cloi deufis o ddigwyddiadau cerddorol yno.

Yn arwain y dathlu bydd grŵp pop eiconig yr 1980au - ABC - ynghyd â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Hefyd yn perfformio fydd enillydd Canwr y Byd Caerdydd y BBC, Andrei Kymach, ac enillydd Cerddor Jazz Ifanc y BBC 2018, sef y sacsoffonydd 22 oed Xhosa Cole.

Dau gyflwynydd y noson fydd Alex Jones o'r One Show a Steffan Powell o BBC Radio 1, ac yn ymuno â nhw fydd cantores theatr gerddorol y West End, Sophie Evans.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y 13eg tro i Proms yn y Parc gael eu cynnal yn Abertawe

Dywedodd pennaeth comisiynu BBC Cymru, Nick Andrews: "Mae Proms yn y Parc y BBC wastad yn noson arbennig, hudol o gerddoriaeth mewn safle godidog.

"Gyda rhestr o artistiaid o safon byd eang, ni fydd Proms yn y Parc yn Abertawe eleni yn ddim gwahanol."

Oherwydd sawl achos dathlu, fe fydd thema'r rhif 50 yn amlwg yn yr arlwy.

Mae Abertawe'n dathlu 50 mlynedd o fod yn ddinas, a bydd y rhaglen gerddorol hefyd yn nodi 50 mlynedd ers i ddyn lanio ar y lleuad.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd tân gwyllt yn cloi'r noson wrth i'r gynulleidfa ymuno â'r Albert Hall yn Llundain am noson ola'r Proms

Bydd gwaith Richard Strauss - Also Sprach Zarathustra, sef thema'r ffilm 2001: A Space Odyssey - yn cael ei berfformio ynghyd â thema John Williams i'r ffilm E.T. the Extra-Terrestrial.

Mae croeso i ymwelwyr ddod â phicnic, cadeiriau a baneri ar gyfer y noson er mwyn hwyluso'r dathlu.

I gloi'r noson yn Abertawe bydd tân gwyllt wrth i'r gynulleidfa ymuno â'r dorf yn yr Albert Hall yn Llundain.

Bydd pobl yn y ddau le - a pharciau eraill ar draws y DU - yn cyd-ganu rhai o'r hen ffefrynnau o noson olaf y Proms.