Cyn-filwyr 'ddim yn hawlio eu pensiynau', medd elusen

  • Cyhoeddwyd
Lluoedd arfog
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl fu yn y lluoedd arfog ar ôl 1975 wedi cael eu cofrestru'n awtomatig ar gynllun pensiwn

Dydy nifer o gyn-filwyr dros 60 oed yng Nghymru ddim yn hawlio eu pensiwn gan y lluoedd arfog, yn ôl elusen.

Dywedodd Age Cymru y gallai'r arian wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd o "gynilo" a "gweithgareddau a chyfleoedd".

Mae pobl fu yn y lluoedd arfog ar ôl 1975 wedi cael eu cofrestru'n awtomatig ar gynllun pensiwn y lluoedd arfog.

Ond mae'n rhaid iddyn nhw gysylltu gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn hawlio'r arian.

Hyd at £4,000 y flwyddyn

Dywedodd Age Cymru bod tystiolaeth yn awgrymu fod nifer o gyn-filwyr dros 60 oed ddim yn gwneud cais am yr hyn mae ganddyn nhw'r hawl amdano.

Yn ôl Steve Boswell o'r elusen dydy rhai ddim yn gwneud am eu bod yn ofni y byddai angen gwneud llawer o waith papur, tra bod eraill ddim yn gwybod bod rhaid gwneud cais am y pensiwn.

"Rydyn ni'n gwybod o'n gwaith gyda chyn-filwyr bod nifer ohonyn nhw'n bobl falch sydd efallai ddim yn hoff o wneud cais," meddai wrth raglen Sunday Politics Wales.

"Fe allai'r incwm ychwanegol yma helpu i drawsnewid eu bywydau o un o gynilo i un o wneud gweithgareddau a chael cyfleoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steve Boswell bod rhai ddim yn gwybod bod rhaid gwneud cais am y pensiwn

Mae rhai cyn-filwyr â hawl i hyd at £4,000 y flwyddyn a chyfandaliad o £12,000.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae cynllun pensiwn y lluoedd arfog yn darparu pecyn hael o gefnogaeth i gyn-filwyr mewn cydnabyddiaeth o'u gwasanaeth ac rydyn ni'n annog unrhyw un sy'n gymwys i gymryd mantais o'r cynllun.

"Rydyn ni'n cysylltu â phawb sy'n gadael y gwasanaeth i roi gwybod iddyn nhw sut mae modd iddyn nhw hawlio'u pensiwn, ac yn adolygu'n systemau yn gyson er mwyn ysgrifennu at unigolion sydd â phensiwn sydd heb ei hawlio."