Cau Pont Llechryd dros afon Teifi am chwe wythnos
- Cyhoeddwyd
Bydd pont gafodd ei difrodi yn ystod Storm Callum yn cael ei chau am y chwe wythnos nesaf er mwyn ei hadfer.
Bydd Pont Llechryd - un o'r prif bontydd dros afon Teifi yng Ngheredigion - yn cau ddydd Llun nes 27 Hydref, ond yn ailagor ar benwythnosau.
Fe wnaeth Storm Callum daro rhannau o Gymru'n wael iawn ym mis Hydref 2018, ac aeth y bont i gyd dan ddŵr.
Mae arolwg o'r bont wedi datgelu bod angen gwaith mawr i'w hadfer, fydd yn costio tua £100,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018