Dyn mewn cyflwr difrifol wedi ymosodiad honedig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 22 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad honedig y tu allan i glwb nos yn Llanelli.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad tu allan i glwb nos The Shaker ar Stryd y Farchnad am tua 02:00 fore Sul.
Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn apelio ar unrhyw dystion neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.