Cyhuddo dyn o ymosodiad clwb nos yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Stryd y FarchnadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd y Farchnad yn oriau mân fore Sul

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol y tu allan i glwb nos yn Llanelli fore Sul wedi cyhuddo dyn 20 oed o achosi niwed corfforol difrifol.

Fe fydd Declan Pugh o Lanelli yn ymddangos ger ynadon y dre fore Llun.

Wedi'r digwyddiad y tu allan i glwb nos The Shaker ar Stryd y Farchnad tua 02:00 fore Sul aed â'r dyn 21 i'r ysbyty gydag anafiadau difrfiol.

Mae'r diffynnydd yn wynebu un cyhuddiad o ymosod, un cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol ar 15 Medi a chyhuddiad ar wahân o ymosod ar 8 Medi.