Penodi cyfarwyddwr newydd canolfan gelfyddydau Pontio
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan gelfyddydau Pontio ym Mangor wedi penodi cyfarwyddwr newydd.
Yn wreiddiol o Lanelli, mae Osian Gwynn yn ymuno â'r sefydliad o Gyngor Celfyddydau Cymru fel swyddog arweiniol.
Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna'r Guildhall School of Music and Drama yn Llundain.
Yn ogystal mae Mr Gwynn wedi gweithio fel canwr opera yn unigol ac yn rhan o'r corws mewn sioeau teithiol dros Brydain ac Ewrop.
Agorodd Canolfan Pontio yn 2015 gydag Elen ap Robert yn gyfarwyddwr artistig cyntaf.
Cyhoeddodd y byddai'n gadael y swydd yn gynharach eleni.
'Sgwennu'r bennod nesaf'
Dywedodd Mr Gwynn ei bod yn "fraint" cael ei benodi a "chael y cyfle i weithio mewn adeilad mor arbennig".
"Mae'n anodd meddwl am ardal well i weithio ynddi o ran cyfoeth ei diwylliant a safon ei hartistiaid, ac rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfle i wrando ar bobl Bangor a'r cyffiniau a chydweithio 'da'r Brifysgol a myfyrwyr wrth 'sgwennu'r bennod nesaf yn hanes Pontio.
"Rwy'n awyddus i adeiladu ar y gwaith eithriadol sydd wedi ei gyflawni gan Elen ap Robert a thîm Pontio, yn ogystal â chreu rhaglen newydd o ddigwyddiadau amrywiol fydd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos i fwynhau diwylliant a'r celfyddydau yn ninas Bangor.
"Mewn cyfnod tymhestlog o ran gwleidyddiaeth, rwy'n hollol argyhoeddedig fod gan y celfyddydau rôl flaenllaw o ran darparu cyfleon i uno, i fynegi ac wrth gwrs, i fwynhau!"
Bydd yn dechrau ar ei waith ym mis Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019