Cyfarwyddwr artistig canolfan Pontio, Bangor i adael

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr Athro Jerry Hunter ac Elen ap Robert fu'n tywys BBC Cymru o amgylch y ganolfan

Bydd cyfarwyddwr artistig Pontio yn gadael ei swydd ym mis Awst eleni wedi saith mlynedd wrth y llyw.

Cafodd Elen ap Robert ei phenodi ym mis Ionawr 2012 i redeg canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor.

Mewn datganiad dywedodd Yr Athro Jerry Hunter, dirprwy is-ganghellor y brifysgol: "Hoffwn ddiolch i Elen am ei chyfraniad helaeth.

"Yn ystod y cyfnod hwn bu Elen yn gyfrifol am sefydlu gweledigaeth artistig y ganolfan, gan arwain Pontio trwy gyfnod cythryblus yr oedi wrth ei agor.

"Ei nod o'r cychwyn oedd creu cynnig celfyddydol uchelgeisiol o ansawdd gyda phwyslais ar y Gymraeg a diwylliant o Gymru ynghyd â gweithgareddau sydd wedi rhoi lle amlwg i'r gymuned leol," meddai.

Fe ddechreuodd y gwaith ar y cynllun £50m yn 2012 - ond roedd y ganolfan dros flwyddyn yn hwyr yn agor oherwydd oedi gyda'r gwaith adeiladu.

Dywedodd Elen ap Robert ei bod yn "falch o'r hyn sydd wedi ei gyflawni yma".

'Newid bywydau er gwell'

"Roedd datblygu'r berthynas rhwng y Brifysgol a phobl yr ardal yn hollbwysig ac yn ganolog i ethos Pontio o'r cychwyn," meddai.

"Roedd gweld y gynulleidfa, yn arbennig y to ifanc, yn profi a chymryd rhan mewn digwyddiadau cyffrous yn wefreiddiol.

"Mae'n rhaid imi dalu teyrnged arbennig i ymroddiad a phroffesiynoldeb tîm Pontio, sydd wedi fy nghefnogi ar hyd y ffordd - maen nhw i gyd yn credu yn angerddol ym mhŵer y celfyddydau i newid bywydau er gwell.

"A hithau yn dal i fod yn ei babandod fel canolfan, dymunaf pob llwyddiant i Pontio ynghyd â fy olynydd, gan ddiolch i'r Brifysgol a Chyngor y Celfyddydau am bob cefnogaeth."