Honiad ymgeisydd o dreisio â chymhelliad gwleidyddol

  • Cyhoeddwyd
Emily Owen
Disgrifiad o’r llun,

Emily Owen yn trafod ei phryderon ynghylch natur negeseuon at ymgeiswyr seneddol ar wefannau cymdeithasol yn ystod etholiad cyffredinol 2017

Mae aelodau o'r Blaid Lafur wedi amlygu'u cefnogaeth i ymgeisydd seneddol sy'n dweud ei bod wedi cael ei threisio mewn "ymosodiad â chymhelliad gwleidyddol".

Dywed Emily Owen, sydd wedi ei dewis i sefyll dros y blaid yn etholaeth Aberconwy, iddi gael ei threisio y llynedd ar ôl i rywrai rhoi cyffur yn ei diod.

Mewn datganiad ar Facebook, mae Miss Owen yn dweud ei bod wedi ei wneud yn glir iddi fod cymhelliad gwleidyddol i'r ymosodiad, ond ei bod wedi dewis peidio cysylltu â'r heddlu yn ei gylch.

Mae llefarydd materion cartref y Blaid Lafur, Diane Abbott a'r colofnydd, sylwebydd ac ymgyrchydd Owen Jones wedi cymeradwyo Miss Owen am ddatgelu'r hyn ddigwyddodd iddi, ac mae swyddogion yn etholaeth Aberconwy yn dweud ei bod yn ddewr ac wedi dioddef trosedd casineb.

Dywed Llafur Cymru ei bod "yn gyson wedi trafod a beirniadu'r rhagfarn rhyw a'r casineb at ferched y mae hi wedi eu profi".

'Maddau'r treisiwr' erbyn hyn

Yn ei datganiad, mae Miss Owen yn dweud ei bod wedi treulio misoedd yn poeni a phendroni ynghylch trafod y digwyddiad yn gyhoeddus ai peidio.

Dydy hi ddim wedi datgelu manylion ynghylch yr ymosodwr na'r lleoliad, ond mae'n dweud iddi gael cefnogaeth elusen arbenigol ac yn teimlo bellach bod modd iddi faddau'r treisiwr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad ag ymosodiad diweddar yn Llundain ar y sylwebydd ac ymgyrchydd Llafur amlwg, Owen Jones

Mae'r datganiad hefyd yn cyfeirio at fygythiadau i'w threisio y mae'n dweud iddi eu derbyn wrth sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, a'r sylw yn sgil hynny yn y wasg a'r cyfryngau.

Ym Mai 2017, dywedodd ei bod wedi derbyn negeseuon o natur rywiol, a bod negeseuon ar-lein yn cynnwys sylwadau anweddus ynghylch pa mor bell y byddai'n barod i fynd i ennill pleidleisiau.

Yn ei datganiad diweddaraf, dywedodd Miss Owen bod rhai cyhoeddiadau wedi ei gwatwar am fynegi pryderon yn 2017, gan honni bod sylw'r wasg wedi cynyddu'r bygythiadau yn ei herbyn gan arwain yn y pen draw at yr ymosodiad arni yn 2018.

Mae'r BBC wedi gofyn i Miss Owen am sylw ond doedd hi ddim yn dymuno cael ei chyfweld.