Newidiadau i geisiadau am drwydded gynnau'n 'wallus'
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o'r gymuned saethu yn dweud fod newidiadau arfaethedig i'r canllawiau am gymeradwyo trwyddedau gynnau yn "sylfaenol wallus".
Ar hyn o bryd, does dim gorfodaeth ar feddygon teulu i ddarparu gwybodaeth feddygol i'r heddlu pan mae un o'u cleifion yn gwneud cais am drwydded gwn.
Mae'r Swyddfa Gartref yn cyfaddef bod anghysonderau yn y system, ac yn argymell ei gwneud yn orfodol i unrhyw un sy'n gwneud cais am drwydded i ddarparu tystysgrif feddygol gyda'u cais.
Dywedodd Meurig Rees, sy'n hyfforddwr saethu yng Ngheredigion, fod pobl sy'n saethu yn cael eu cosbi'n annheg am orfod darparu gwybodaeth a ddylai fod gan yr heddlu.
"Wrth edrych ar y peth o safbwynt rhywun sy'n saethu, mae'n draed moch a bod yn onest," meddai.
"Mae'r gwiriadau meddygol yna yn barod. Ond mae anghysonderau ar yr ochr feddygol - mae rhai meddygfeydd yn gallu codi unrhyw beth o £20 i £100 am y wybodaeth a dyw hynny ddim yn iawn.
"Ddylen ni ddim bod yn talu, ond mae'r cyfrifoldeb yn dod yn ôl arnom ni fel saethwyr drwy'r amser."
'Angen cysondeb'
Ardal Heddlu Dyfed-Powys sydd â'r nifer uchaf o drwyddedau gynnau yng Nghymru a Lloegr - y llynedd yn unig fe wnaethon nhw awdurdodi 15,344 o drwyddedau gynnau haels a 4,636 o dystysgrifau gynnau.
Mae'r niferoedd mewn ardaloedd gwledig yn dueddol o fod yn uwch gan fod pobl â gynnau am nifer o resymau gwahanol, gan gynnwys yr angen i saethu anifeiliaid ysglyfaethus er mwyn gwarchod da byw.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Clare Parmenter ei bod yn croesawu unrhyw newidiadau fyddai'n unioni'r system.
Mae'n mynnu na fyddai'r llu yn cymeradwyo tystysgrif oni bai fod gwybodaeth feddygol yn cael ei chynnig, ac yn dweud mai diogelwch y cyhoedd yw'r flaenoriaeth.
"Fe fyddai'n bryder i ni os nad oes cysondeb. Mae angen proses safonol drwy'r DU i gyd," meddai.
"Rwy'n fodlon fod gennym broses fonitro yn ardal Dyfed-Powys - rydym yn drylwyr iawn ac mae gennym berthynas dda gyda'n meddygfeydd.
"Maen nhw'n gefnogol iawn yn darparu gwybodaeth, ond byddai ymgynghoriad newydd yn cyflymu'r broses i bawb sy'n rhan ohono."
Y drefn bresennol yw bod yr heddlu yn cysylltu gyda meddyg teulu unrhyw un sy'n gwneud cais am drwydded er mwyn cael y wybodaeth berthnasol.
Ond mae'r Swyddfa Gartref yn dweud nad yw bob meddyg teulu yn ymateb, mae rhai yn codi ffi amrywiol am y gwasanaethau ac mewn rhai achosion mae tystysgrifau gynnau wedi cael eu cymeradwyo pan nad oes gwybodaeth feddygol wedi ei darparu.
Rhwystredigaeth meddygon
Dywedodd Dr Phil White, llefarydd ar ran cymdeithas feddygol y BMA, ei bod yn hollbwysig i reoleiddio gynnau, ond fod nifer o resymau pam nad yw meddygon yn gallu darparu'r wybodaeth y mae'r heddlu eisiau.
"Rydym yn medru datgelu os yw'r cyhoedd mewn perygl gan rywun sydd â thrwydded ynnau," meddai.
"Mae rhoi marc ar eu cofnodion yn fodd o wneud hyn, ond mae rhai meddygon teulu yn teimlo'n gryf na ddylai unrhyw un gael gwn yn eu cartref, ac maen nhw'n gwrthod cydymffurfio â'r rheoliadau."
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, dywedodd llefarydd o'r Swyddfa Gartref mewn datganiad: "Mae ein rheolau am berchnogaeth gynnau gyda'r mwyaf cadarn yn y byd, ac fe fyddwn yn gwneud popeth o fewn i'n gallu i gadw hynny."
Fe wnaeth y llefarydd gadarnhau eu bod yn asesu'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn penderfynu a fydd unrhyw newidiadau i'r broses o wneud cais am drwydded i gael gwn neu wn haels.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2019