Diolch i bobl Llambed am Gymraeg gloyw Takeshi
- Cyhoeddwyd
I bobl tref Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion mae llawer o'r diolch am Gymraeg gloyw Takeshi Koike.
Ar hyn o bryd, mae'r darlithydd o Tokyo yn cyflwyno cyfres o wersi Japanaeg i gefnogwyr rygbi Cymru ar gyfrifon Facebook, dolen allanol a Twitter, dolen allanol BBC Cymru Fyw.
Ond 17 mlynedd yn ôl, roedd yr esgid ar y droed arall â Takeshi yn derbyn gwersi Cymraeg tra'n fyfyriwr yng Nghymru. Ac mae acen y Cardi i'w glywed yn ei Gymraeg graenus.
"Fe es i i Gymru fel myfyriwr ym 1992 am flwyddyn, i Lanbedr Pont Steffan", meddai Takeshi. "Y prif bwrpas oedd dysgu Saesneg ar y pryd hwnnw, ond oherwydd y cyfamod rhwng fy mhrifysgol yn Japan a'r coleg yn Llambed, roedd rhaid dilyn cwrs Cymraeg hefyd.
"Dyma sut y dechreuais i ddysgu Cymraeg, bron ar ddamwain!
"Ond fe helpodd yr amgylchedd yn Llambed mi i gaffael yr iaith yn gyflym, am fod llawer o siaradwyr Cymraeg yn byw yn y dref, fod athrawes dda gennyf yn y coleg, am mai aelod y côr oeddwn i yn yr eglwys (Eglwys San Pedr) lle yr oedd Cymraeg yn brif gyfrwng o addoliad," meddai Takeshi.
Hyrwyddo gwybodaeth am Gymru
Ar ôl y profiad gwerthfawr yn Llambed, aeth Takeshi ati i ddysgu am ramadeg ac ynganiad y Gymraeg yn fwy ffurfiol. Ac mae'n dweud bod y Gymraeg yn iaith bwysig iddo o hyd.
Yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Daito Bunka yn Tokyo, mae'n cynnal gwersi Cymraeg i fyfyrwyr yno ac wedi sefydlu cwrs o'r enw 'Cymru: ei hiaith a'i diwylliant'.
Mae ef a'i gyfaill, Yoshifumi Nagata, hefyd wedi ysgrifennu gwerslyfr ar gyfer dysgu Cymraeg trwy gyfrwng Japanaeg.
"Nawr yr wyf yn dysgu Cymraeg i eraill er mwyn deall Cymru, ei diwylliant a'i hanes a'i llenyddiaeth yn fwy, ac yn hyrwyddo gwybodaeth am Gymru yn Japan," meddai Takeshi.
"Mae diwylliant Cymru yn dod yn fwy poblogaidd yn Japan ac mae'r nifer o bobl sydd yn dod i wybod am Gymru yn cynyddu."
Heb os, cafodd tîm rygbi Cymru groeso anhygoel ar ôl cyrraedd Japan ar gyfer Cwpan y Byd, gyda 15,000 o gefnogwyr yn dod i'r stadiwm yn Kitakyushu i wylio sesiwn ymarfer.
Ac yn ogystal â chanu Hen Wlad fy Nhadau, roedd rhai o'r plant lleol hefyd wedi dysgu Calon Lân.
Banzai!