Beth ddylech chi wybod am Japan cyn mynd?

  • Cyhoeddwyd
Dim cyllell a fforc? Dim problem i Branwen!Ffynhonnell y llun, Branwen Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Dim cyllell a fforc? Dim problem i Branwen!

Gyda Phencampwriaeth Cwpan y Byd ar fin dechrau yn Japan mae Branwen Dafis yn rhannu ei hargraffiadau hi o'r wlad ac yn rhoi cyngor i'r rheiny sy'n mynd yno eleni.

Bu Branwen, o Lanwenog, Ceredigion yn wreiddiol, yn byw yn Japan am 10 mlynedd cyn dod nôl i fyw i Gaerdydd ddechrau'r flwyddyn.

"Y cynllun o'dd mynd mas i Japan i ddysgu Saesneg am flwyddyn ond fe gymrodd hi ddeg mlynedd tan 'mod i'n teimlo'n barod i adael," meddai.

"Fi'n dal i golli bywyd yn Japan. Gan fod pawb yn byw mewn tai bach iawn, mae pobl yn tueddu i fynd mas mwy i gymdeithasu ac mae bwyta mas lot yn rhatach.

"Fi hefyd yn gweld eisiau'r mynyddoedd. Ro'n i'n mwynhau snowboardio ac mae pobl ar draws y byd yn dod i Japan i sgïo hefyd."

Ffynhonnell y llun, Branwen Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Branwen ar ben ei digon yn yr eira

Mae Branwen a'i chariad, Geraint, yn mynd yn ôl i Japan i weld gemau Cymru yng Nghwpan y Byd.

"Mae chwaraeon yn big deal yn Japan ond 'dyw rygbi ddim mor boblogaidd â baseball neu bêl-droed. Fi'n credu daw e'n fwy poblogaidd yn sydyn achos mae pobl Japan yn joio neidio ar y bandwagon.

"Fe gafodd fy nheulu dipyn o sioc pan glywon nhw 'mod i wedi cwrdd â bachgen o Fangor mas yn Japan. Fi'n credu o'n nhw'n eithaf hapus achos ro'n nhw'n credu y bydde mwy o siawns y bydden i'n symud nôl i Gymru, ac ro'n nhw'n iawn!

Byd gwaith

"Dydw i ddim yn colli'r prysurdeb. Ro'n i'n gweithio yn Shinjuku, un o ardaloedd prysura'r byd.

"Doedd hi byth yn dawel. Roedd wastad rhywun arall yn agos ac roedd rhaid i ti fod yn ystyriol yn y ffordd o't ti'n sefyll neu'n symud o hyd. Do't ti byth ar ben dy hun ac roedd hynny yn gallu bod yn exhausting.

Ffynhonnell y llun, Branwen Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Mewn gwisg traddodiadol

"Mae diwrnod gwaith yn hir yn Japan, o naw y bore tan saith y nos. Mae menywod yn tueddu i stopio gweithio ar ôl priodi a chael plant. Fi oedd yr unig ferch o fewn y cwmni oedd yn gweithio ar fy lefel i ac roedd pawb uwch fy mhen i yn ddynion.

"Roedd rhaid i fi wisgo siwt ddu a sodlau i'r gwaith. Mae mudiad #KuToo yn ceisio newid y rheol o ran gwisgo sodlau ond dywedodd y Prif Weinidog 'Na'.

"Roedd e'n flinedig gorfod gwisgo sodlau i wneud presentations."

Felly beth ddylai pobl ei wybod am Japan cyn mynd? Mae gan Branwen ddigon o gyngor:

Cwrteisi

"Mae pobl Japan yn ystyriol iawn o'i gilydd ac maen nhw'n rhoi lot o barch i'r genhedlaeth hŷn," meddai Branwen.

"Pan y'ch chi'n bwyta mas, mae'n gwrtais i lenwi gwydryn pawb ond ti dy hunan ac aros i rywun arall lenwi dy wydryn di. Fyddi di ddim yn aros yn hir achos mae pawb yn gwylio mas am wydrau gwag. Mae Ger a fi yn dal i wneud hyn adre. Sut mae'r grŵp yn teimlo sy'n bwysig ac mae hynny'n beth neis."

Y tywydd a baddonau poeth

"Fe fydd y tywydd yn hyfryd yn Japan yn ystod y bencampwriaeth. Dylech chi fod yn iawn mewn shorts a chrys T a falle gallwch chi hyd yn oed nofio yn y môr.

"Os y'ch chi'n ymweld â Japan, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n mynd i Onsen.

"Mae rhain fel baths cyhoeddus, naturiol yn y wlad. Mae'r dŵr yn gynnes iawn ac i fod i gael healing properties. Mae'n rhaid i chi fod yn noeth i'w defnyddio nhw ond peidiwch poeni am hynny. Ewch amdani! Mae 'na rai manmade ynghanol Tokyo hefyd ac fe gewch chi wisgo dillad nofio yn rheiny ond maen nhw'n fwy touristy.

Ffynhonnell y llun, Branwen Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Mae hyd yn oed y mwncïod eira yn hoffi'r baddonau poeth ac fel pawb arall yn gorfod mynd mewn yn noeth!

Gwnewch ffrindiau - gyda phobl ac anifeiliaid

"Siaradwch gyda phobl a pheidiwch bod ofn defnyddio ychydig o Siapanaeg. Maen nhw'n cael tipyn o drafferth dysgu Saesneg, ac yn credu bod Siapanaeg yn llawer anoddach felly os wnewch chi jyst dweud gair neu ddau, byddan nhw'n mynnu eich bod chi'n wych!

"Os y'ch chi'n hoffi cathod, ewch i Cat Café. Maen nhw mor boblogaidd ac yn gyfle i chi gael diod ac eistedd neu chwarae gyda'r cathod am ryw hanner awr. Mae na gaffis cwningod neu gwdihŵs hefyd!"

Ffynhonnell y llun, Branwen Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Cofiwch alw i ddweud helo wrth y cathod

Bwyta ac yfed

"Ewch i Izakaya. Mae'r rhain fel tafarn. Archebwch lawer o blatiau bach o fwyd, fel tapas. Mae hyn yn ffordd dda i drio be sydd ar gael. Os y'ch chi'n vegetarian, dysgwch sut i ddweud nad ydych chi'n gallu bwyta cig achos mae'n syniad dieithr iddyn nhw. Mae na lot o lysiau a tofu ar gael ond weithiau maen nhw'n dod mewn pork broth neu maen nhw'n rhoi pysgod ar y top. Ti hefyd yn gallu cael chips neu fried chicken mewn Izakaya felly wnewch chi ddim starfo!

"Ar ddechrau noson mewn Izakaya, mae'n arferol i bawb archebu cwrw a dweud Cam Pai - fel 'iechyd da' - cyn yfed. Wedyn mae pawb yn rhydd i yfed be maen nhw'n moyn."

Ffynhonnell y llun, Branwen Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedwch Cam Pai! Mae Branwen mewn Izakaya

"Dwi'n mwynhau plum wine neu mae sours,sydd fel cymysgedd ospirit a mixer, yn neis ac yn dod mewn blasau fel lemon neu grapefruit.

"Mae yfed gyda phobl o'r gwaith yn rhan fawr o'r diwylliant. Dydy llawer o bobol Japan ddim yn dal eu diod yn dda, ond dy'n nhw ddim yn mynd yn grac nac yn dreisgar. Maen nhw jyst yn bod yn neis, mynd yn siaradus ac efallai'n cwympo i gysgu!

"Ar nos Wener neu nos Sadwrn fe weli di ddynion busnes mewn siwts du yn cysgu ar y stryd ar ôl yfed gormod gyda'u waledi neu mobiles yn eu côl. Mae hwnna yn rywbeth arall am Japan. Does dim llawer o drosedd. Dwi wedi colli fy nghardiau banc sawl gwaith a dw i wastad yn cael nhw 'nôl!

Ymddwyn yn ystyriol

"Os wyt ti'n sâl, cofia wisgo masg. Maen nhw ar gael yn rhad ymhobman. A phaid peswch ar y trên. Bydd pobl yn grac. 'Dyw bwyta ar y stryd neu ar metro neu'r subway ddim yn gwrtais chwaith.

"Mae tatŵs yn gallu bod yn symbol o berson peryglus, felly byddwch yn ofalus.

"Os wyt ti'n ferch, mae'n bwysig gorchuddio dy dop, ond paid poeni gormod am y pen-ôl - fe welwch chi shorts byr iawn mewn ardaloedd fel Shibuya lle mae lot o bobl ifanc yn byw."

Ffynhonnell y llun, Branwen Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Os nad y'ch chi'n siwr beth i'w ddangos a beth i'w gwato, mae Kimono wastad yn saff!

"Dyw Pobol Japan ddim yn gwbod lot am Gymru. Siaradwch am Gymru bob cyfle gewch chi! Maen nhw'n tueddu i wybod pwy yw Gareth Bale neu falle Ryan Giggs ac o bosib Tom Jones. A byddwch yn neis ac yn lân.

"Os nad y'ch chi'n gallu mynd i Japan eleni, gallwch chi gael blas o'r diwylliant wrth fynd mas am fwyd Japanese a gorffen y noson mewn karaoke booth. Mae rheiny yn anferth yn Japan!"

Hefyd o ddiddordeb