Fflasg olaf o danwydd ymbelydrol olaf yn gadael Wylfa
- Cyhoeddwyd
Bron i bedair blynedd wedi i gynhyrchu trydan ddod i ben yn atomfa Wylfa ar Ynys Môn, mae'r fflasg olaf o danwydd ymbelydrol wedi gadael y safle.
Mae'n nodi diwedd pennod yn y gwaith o ddatgomisiynu'r orsaf, sy'n debygol o barhau tan y flwyddyn 2126.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae 586 o fflasgiau wedi gadael Wylfa am waith ail-brosesu Sellafield.
Ar ôl trafferthion technegol yn y dechrau, mae Richard Owen, un o'r peirianwyr fu'n gyfrifol am y gwaith, yn dweud fod yr holl beth wedi mynd "yn dda iawn".
"Mae'n deimlad rhyfedd, meddwl na welwn ni'r fflasgiau a'r lorïau yma eto," meddai.
Bydd y gweithlu'n Wylfa yn gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnosau nesaf o 320 i 175.
Er bod nifer o'r gweithwyr un ai'n ymddeol neu'n symud i safleoedd niwclear arall, bydd diflaniad y swyddi'n ergyd ddifrifol i economi fregus gogledd Môn.
Bydd y gwaith datgomisiynu'n symud ymlaen i'r cymal nesaf cyn bo hir, fydd yn cynnwys dymchwel rhai adeiladau.
Y disgwyl ydy y bydd yr holl weithwyr wedi gadael ymhen rhyw saith mlynedd, ac yna bydd y safle'n aros yn segur am ganrif cyn i'r adweithyddion gael eu dymchwel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2019
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019