Chwaraewr Y Bala, 24 oed, yn brwydro canser
- Cyhoeddwyd
![Daniel Gosset (chwith) yn cynrychioli Cymru C yn erbyn Lloegr yn 2018](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/05BA/production/_108866410_gettyimages-935195554.jpg)
Daniel Gosset (chwith) yn cynrychioli Cymru C yn erbyn Lloegr yn 2018
Mae chwaraewr canol cae'r Bala, Daniel Gosset wedi datgelu ei fod yn brwydro canser.
Mewn datganiad gafodd ei ryddhau drwy'r clwb ddydd Iau, dywedodd y gŵr 24 oed ei fod wedi cael diagnosis o non-Hodgkin Lymphoma, math o ganser y gwaed.
Mae Gosset, sy'n gyn-ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, hefyd wedi cynrychioli'r Seintiau Newydd, Dinas Bangor, Oldham Athletic a thîm lled-broffesiynol Cymru.
"Mae'r gefnogaeth dwi wedi cael gan bobl ers darganfod 'mod i'n sâl wedi bod yn anhygoel a dwi wir yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad," meddai.
Diolchodd i ffisiotherapydd y clwb, Ffiona Evans, am ei annog i gael profion pellach ar ôl iddo gael poen "anarferol" yn ei goes.
"Dwi'n lwcus iawn o fod yn rhan o glwb mor arbennig ac mi fydda i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i fod 'nôl ar y cae ym Maes Tegid cyn gynted â phosib."
![Tweet Daniel Gosset](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1024/cpsprodpb/CDA7/production/_108874625_e86a9706-895d-40c7-af5e-7a9ee130d967.jpg)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2016