Chwalu 'myth' Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd
"Rhamant" yw'r stori am Betsi Cadwaladr, y nyrs o'r 19eg Ganrif y mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi ei enwi ar ei hôl, yn ôl y cyn feddyg Gruffydd Jones sydd wedi astudio ei hanes.
Mae hanes bywyd rhyfeddol y 'Florence Nightingale Cymreig' o'r Bala wedi ei gwneud yn arwres yng Nghymru.
Pan ddewiswyd yr enw newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2009 roedd hi'n cael ei dathlu fel arloeswr wnaeth wirfoddoli i ymuno â'r gwasanaeth nyrsio milwrol yn Rhyfel y Crimea yn 1854.
Yno, yn ôl yr hanes, fe wnaeth hi ffraeo efo Florence Nightingale a mynnu mynd i flaen y gad yn ysbyty Balaclafa i weithio mewn amodau budr i ofalu am y milwyr.
Felly, faint o'r hanes enwog yma am Betsi Cadwaladr sy'n wir?
Mae Gruffydd Jones yn feddyg wedi ymddeol sydd wedi gwneud astudiaeth hanesyddol o honiadau Betsi Cadwaladr am ei bywyd a chanfod fod seiliau simsan i'r straeon sydd wedi ei phortreadu fel arwres ac arloeswr.
Mewn traethawd hir i'r Brifysgol Agored, dolen allanol ac mewn erthygl yn y cylchgrawn O'r Pedwar Gwynt, dolen allanol mae Dr Jones yn dangos sut mae cofnodion llongau a phapurau newydd y cyfnod yn profi bod llawer o hanesion Betsi yn gelwydd - yn enwedig ei straeon am deithio ar y môr i sawl cyfandir.
"Dyma'r darn mwyaf trawiadol o'r hunangofiant", meddai Dr Jones ar Radio Cymru.
"Mae'n honni ei bod hi ar y môr rhwng 1820 a 1835 am 15 mlynedd ar ddwy wahanol gwch yn mynd i'r Caribi, Awstralia a rownd y byd i India a China, yn ôl y llyfr.
"Ond dwi ddim yn meddwl bod hynny'n wir.
"Mae 'na rannau'n wir, ond mae'r rhan fwyaf o'r anturiaethau yn ffantasi - mi fedra i brofi i sicrwydd na fu y Denmark Hill, er enghraifft, [un o'r llongau wnaeth Betsi deithio arni fel morwyn] erioed yn China, India, Môr y Canoldir nac yn Chile."
Gweld uncorn
Mae hanes Betsi fel rydyn ni'n ei adnabod yn deillio o hunangofiant a gyhoeddwyd yn 1857 sy'n dweud ei bod wedi gadael cartref yn 14 oed a ffoi i Lerpwl lle bu'n gweithio i deulu cefnog oedd yn teithio Ewrop ar y môr.
Mae'n cynnwys straeon rhyfeddol amdani yn achub llong mewn storm, yn dal lladron, yn gwisgo fel dyn, yn gwrthod degau o gynigion o briodas, ac yn gweld anifeiliaid rhyfeddol mewn gwledydd pell, yn ogystal â gweithio fel nyrs.
Un o'r honiadau sy'n bwrw cysgod dros hygrededd gweddill y gyfrol ydy ei bod yn gweld uncorn yn Ne Affrica!
Stori arall mae Dr Jones wedi ei gwrthbrofi ydy iddi golli ei dyweddi, y Capten Thomas Harris, mewn llongddrylliad.
'Ddim yn nyrs'
Felly fu hi yn y Crimea o gwbl?
Do, ond doedd hi ddim yn nyrs yn ôl Gruffydd Jones.
"Yr adeg hynny, roedd unrhyw ferch oedd yn gweithio mewn ysbyty yn cael ei galw'n nyrs," meddai.
"Os oeddach chi'n golchi dillad, gwneud bwyd, tacluso neu'n molchi cleifion - roeddech chi'n cael eich galw'n nyrs, auxilliary nurse, neu domestic erbyn hyn - gwaith pwysig ond ddim yn waith nyrs.
"Mi fuodd hi tua chwe wythnos yn y wardiau yn ysbyty Balaclava a gweddill yr amser yn rhedeg yr extra diet kitchen - roedd yn cael ei chysidro yn gogyddes gan Florence Nightingale."
Does dim tystiolaeth meddai Dr Jones iddi hi wneud cyfraniad pwysig at iechyd a nyrsio.
Gyda thystiolaeth Betsi a thystiolaeth Florence Nightingale ac eraill am y Crimea yn wahanol, pwy felly i'w gredu?
Casgliad Dr Jones ydy fod hanes yr anturiaethau morwrol yn dangos nad ydi'r hunangofiant yn ddibynadwy.
Ond ai ar Betsi mae'r bai?
Nid Betsi Cadwaladr wnaeth ysgrifennu'r hunangofiant, An Autobiography of Elizabeth Davis [enw arall Betsi Cadwaladr] ond yn hytrach hanesydd o'r enw Jane Williams.
Mae'n debyg i'r llyfr gael ei ysgrifennu gan Jane Williams ar ôl cyfres o sgyrsiau gyda Betsi a oedd erbyn hynny yn wael ei iechyd, ac yn heneiddio. Bu farw dair blynedd ar ôl cyhoeddi'r gyfrol.
"Nid hunangofiant ydi o, ac nid bywgraffiad chwaith - hanes llafar ydi'r llyfr, straeon gan Betsi wedi cael eu gweu i fewn i naratif gan Jane Williams," meddai Dr Jones.
Cafodd y llyfr ymateb anffafriol gan y wasg Saesneg a'i alw'n "odious lying book" gan un o gydweithwyr Florence Nightingale yn y Crimea.
Pam fod y myth wedi tyfu?
Ond, roedd ymateb y wasg Gymraeg yn wahanol iawn, gyda Baner Cymru yn ei ganmol i'r entrychion ac yn gwneud arwres o Betsi.
Mae a wnelo'r esboniad am hynny meddai Mr Jones ag un o ddigwyddiadau pwysig hanes Cymru, Brad y Llyfrau Gleision yn 1847, sef adroddiad ar ysgolion Cymru oedd yn ymosod ar foesoldeb y Cymry ac ar yr iaith Gymraeg.
Un o'r bobl wnaeth daro nôl yn erbyn yr honiadau yma oedd Jane Williams.
"Doedd Baner Cymru ddim yn mynd i gwestiynu gonestrwydd merch i bregethwr Methodistaidd enwog [Betsi Cadwaladr] na gwaith Jane Williams oedd wedi bod yn arwres yn amddiffyn Cymru yn erbyn y Llyfrau Gleision," esbonia Dr Jones.
Roedd angen mawr yn sgil y Llyfrau Gleision i'r Cymry brofi eu bod nhw gystal, meddai Dr Jones.
"Mae'r myth yma'n fyth cyfforddus iawn, mae'n siwtio ni'r Cymry," meddai.
"Mae Betsi wedi cyfarfod ryw ofyn gwladgarol, rhyw angen yn y wasg Gymraeg.
"Fe grewyd arwres o Betsi - fel Cymraes, fel nyrs ac fel menyw - pan oedd gofyn gwleidyddol neu ddiwylliannol," meddai Dr Jones "ac mae'r chwedl yn parhau i dyfu."
"Bwydir plant Cymru felly â 'hanes' sy'n seiliedig nid ar waith ymchwil gwrthrychol ond ar ramant cyfleus o'r un safon â stori Gelert."
Yn ôl Dr Jones yr angen i greu arwres o ffigwr Cymreig arloesol a "thynnu merched allan o gysgodion hanes Cymru" yw'r rheswm iddi gael ei dewis fel enw pan ad-drefnwyd y byrddau iechyd.
Yr hanes go iawn
Dydi Dr Jones ddim yn siomedig ei fod yn chwalu'r myth.
"Dwi'n credu bod angen bod yn onest yn fwy na dim," meddai.
"'Does neb yn gwadu bod Cymru yn gymdeithas patriarchaidd ac wedi bod yn fwy patriarchaidd yn y gorffennol," meddai Dr Jones wrth gydnabod fod gwir angen ailystyried pwysigrwydd merched yn ein hanes.
"Ond fedrwch chi ddim gwneud hynny drwy greu myth... mae'n well bod yn wrthrychol, yn academaidd ac yn onest."
Yr eironi am Betsi Cadwaladr, noda Dr Jones, yw y byddai cofnod gonest o'i hanes - ei gwaith a'i bywyd cymdeithasol fel merch ddosbarth gweithiol anghonfensiynol a oroesodd waith caled ar longau, amodau erchyll ysbyty rhyfel a thlodi - yn ddogfen gymaint mwy gwerthfawr i hanes Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: