UKIP 'yn berthnasol o hyd Nghymru' medd Hamilton
- Cyhoeddwyd
Mae UKIP yn berthnasol o hyd ac mae angen y blaid "yn fwy nag erioed", yn ôl arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton.
Daeth y sylwadau wrth i aelodau UKIP ymgynnull yng Nghasnewydd ar gyfer cynhadledd flynyddol y blaid.
Ond does dim disgwyl i arweinydd UKIP trwy Brydain, Richard Braine, fod yn bresennol.
Yn ôl adroddiadau mae e wedi penderfynu cadw draw oherwydd ei fod wedi ei siomi gan werthiant tocynnau ar gyfer y digwyddiad.
Dywedodd cadeirydd y blaid bod y penderfyniad yn "sarhad".
Colli tir
Mae UKIP wedi colli tir yn sylweddol ers helpu i sicrhau pleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm yn 2016.
Ym mis Mai fe gollodd y blaid ei holl seddi'n Senedd Ewrop yn yr etholiadau Ewropeaidd wrth i Blaid Brexit, yng ngofal cyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage, sicrhau buddugoliaeth ysgubol yng Nghymru ac ar draws y DU.
Mae llwyddiant Plaid Brexit wedi codi cwestiynau pellach am ddyfodol a pherthnasedd UKIP, ond ar drothwy cynhadledd flynyddol y blaid yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Neil Hamilton: "Mae'r sefydliad gwleidyddol yn dal i honni bod UKIP yn amherthnasol ond, yma yng Nghymru, ni'n eu profi'n anghywir.
"Rydyn ni'n sefyll cornel y bobl gyffredin sy'n cael eu hanwybyddu gan yr hen bleidiau," meddai'r Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
"Mae angen UKIP yn fwy nag erioed. UKIP yw llais y bobl. Mae'n rhaid i ni fod yn unedig i roi'r llais yna iddyn nhw. Mae Brexit yn bwysicach nag unrhyw beth arall, nag unrhyw unigolyn."
'Cyfle perffaith'
Ynghyd â'r Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, Gareth Bennett, mae Mr Hamilton yn un o'r ddau Aelod Cynulliad sydd gan UKIP o hyd ers i'r blaid ennill saith sedd yn 2016.
"Mae llai na dwy flynedd i fynd tan etholiadau'r Cynulliad yn 2021, fydd yn gyfle perffaith i UKIP gymryd cam ymlaen a sicrhau bod llais synnwyr cyffredin i'w glywed eto ar lawr y Cynulliad drwy ethol mwy o Aelodau Cynulliad UKIP," meddai Mr Hamilton.
Dywedodd cadeirydd y blaid Kirstan Herriot: "Rydyn ni'n gyffrous iawn am gynnal ein cynhadledd genedlaethol mewn canolfan gynadledda newydd sbon."
Yn gynharach yr wythnos hon fe ysgrifennodd Ms Herriot at aelodau'r blaid yn beirniadu Mr Braine am ei "benderfyniad anffodus" i beidio â mynychu'r gynhadledd.
Mae'n debyg bod Mr Braine wedi awgrymu y dylid gohirio'r gynhadledd.
"Rydw i a'r pwyllgor gwaith yn credu ei fod yn sarhad llwyr i'r aelodaeth i geisio canslo'r gynhadledd oherwydd y posibilrwydd y gallai'r niferoedd sy'n mynychu fod yn isel," ychwanegodd Ms Herriot.
Cafodd Mr Braine ei ethol fis diwethaf yn dilyn ymddiswyddiad Gerard Batten.
'Hurt'
Ychwanegodd Mr Hamilton ei bod hi'n "hurt" nad oedd Mr Braine yn bresennol.
"Mae Richard yn nofydd ac ond wedi bod yn ymwneud â gwleidyddiaeth ers ychydig flynyddoedd, bron a bod does neb yn gwybod amdano.
"Fe allai hyn fod yn gyfle gwych iddo godi proffil ei hun ymysg y Cymry, ac mae wedi troi'r cyfle lawr am reswm gwbwl annilys."
Pan ofynnwyd i Mr Bennett am sefyllfa bresennol y blaid yn sgil absenoldeb Mr Braine a'r niferoedd bychain a fyddai'n bresennol, dywedodd: "Rydym yn arbenigo mewn ffraeo gyda'n gilydd.
"Os mai ond dau ohonom ni sydd ar ôl (fel ACau) mae'n siŵr y byddwn dal yn ffraeo.
"Felly o'm safbwynt i does dim byd yn newid."
Pan ofynnwyd am ddyfodol y blaid dywedodd ei bod hi'n "anodd iawn i ddweud yng nghanol yr hinsawdd wleidyddol bresennol".
"Mae popeth mor gythryblus ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn siŵr beth ddigwyddith gyda'r Blaid Geidwadol, os y byddan nhw'n hollti, na chwaith gyda'r blaid Lafur os y byddan nhw'n hollti hefyd.
"Dydw i ddim yn gwybod beth neith ddigwydd gyda Ukip y flwyddyn nesaf, a dwi ddim yn credu mewn gwirionedd fod neb yn gwybod," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019