Hen swyddfa dur am gael adferiad gwerth £5.2m

  • Cyhoeddwyd
Adeilad John SummersFfynhonnell y llun, Dragon Flight Drones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adeilad John Summers wedi bod yn darged i fandaliaid ers iddo gau yn 2006

Mae adeilad yng ngogledd Cymru sydd ar restr yr adeiladau mwyaf bregus yn y DU ar fin cael adferiad gwerth dros £5m.

Mae swyddfa a chloc gwaith dur Shotton yn Sir y Fflint yn adeilad rhestredig Gradd II, ond mae wedi bod yn darged i fandaliaid ers iddo gau yn 2006.

Cafodd Adeilad John Summers ei adeiladu yn 1907 pan gafodd safle dur Glannau Dyfrdwy ei ehangu, a bu ar un cyfnod yn cyflogi 10,000 o bobl.

Bydd nawr yn cael ei drosglwyddo i sefydliad fydd yn gwario £5.2m yn ei droi'n ganolfan gymunedol.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adeilad John Summers ei adeiladu yn 1907

Dywedodd Vicki Roskams o Sefydliad Enbarr - y grŵp cymunedol sy'n gobeithio adfer yr adeilad - bod y safle mewn cyflwr gwael.

"Rydyn ni'n dechrau o'r dechrau mewn gwirionedd. Does dim byd yno sydd ddim yn sownd i'r wal," meddai.

Ychwanegodd bod angen gwaith helaeth ar yr adeilad, ac nad oedd ganddynt darged o ran pryd i'w agor fel canolfan gymunedol.

"Mae'n rhaid i ni fod mor ofalus. Fyddwn ni ddim yn brysio hyn o gwbl - mae'n rhaid i ni gael yr arbenigwyr cywir," meddai.

"Mae'r adeilad 'ma am ddigwydd, os yw'n cymryd pump neu 10 mlynedd - does 'na ddim cwestiwn na fydd yn digwydd. Mae'r gymuned ei angen."