Creu straeon Cymraeg i wella 'diffyg amrywiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Cast CatrinFfynhonnell y llun, Cant a Mil o Freuddwydion
Disgrifiad o’r llun,

Catrin ydy prif gymeriad y stori gyntaf ar y wefan

Bydd straeon Cymraeg i blant sydd ar gael am ddim yn ceisio gwella'r "diffyg amrywiaeth a chynrychiolaeth" sydd mewn llyfrau plant, yn ôl yr awduron.

Mae gwefan Cant a Mil o Freuddwydion yn fenter newydd sy'n cynnig straeon digidol i blant.

Cafodd y wefan ei chreu gan Rhiannon Lloyd Williams, 23, a Sioned Medi Evans, 25, o Gaerdydd, ar ôl gweld bwlch am straeon Cymraeg ar gael arlein.

Gan fod y straeon ar gael i unrhyw un lawrlwytho, mae'r awduron yn dweud eu bod yn "gyfle i bawb" ddarllen yn Gymraeg.

'Cynrychioli pawb'

Mae'r straeon wedi eu hysgrifennu gan Rhiannon, ac yna Sioned sy'n creu'r darluniau i gyd-fynd.

"Mae Rhiannon yn sgwennu'n naturiol, dwi'n naturiol yn g'neud darluniau, o'n i just yn meddwl pam lai rhoi o mewn un lle i blant Cymru a thu hwnt sy'n siarad Cymraeg," meddai Sioned.

Cafodd y stori gyntaf ei chyhoeddi ddechrau Medi, ac mae'n adrodd hanes merch ifanc sy'n torri ei braich.

Mae prif gymeriad y stori gyntaf yn ferch ddu, Catrin, ac mae'r awduron yn awyddus i barhau i ddangos amrywiaeth.

Ffynhonnell y llun, Cant a Mil o Freuddwydion
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awduron Rhiannon a Sioned yn gobeithio y bydd eu straeon yn "gyfle i bawb ddarllen yn Gymraeg"

"Dwi'n gweld diffyg amrywiaeth a chynrychiolaeth mewn llyfrau plant, fel [y rhai] o'n i'n gael pan o'n i'n fach, a dyddiau yma hefyd," meddai Sioned.

"Felly mae'n bwysig annog a chynnal amrywiaeth yn ein straeon ni.

"Mae'n dod yn naturiol i ni, 'da ni ddim yn gorfeddwl ond yng nghefn fy meddwl mae'n rhywbeth pwysig i roi allan..."

"Os ydy plentyn o dras wahanol yn dysgu Cymraeg mae'n neis iddyn nhw weld bod nhw'n cael eu cynrychioli a bod nhw'n gallu uniaethu hefo'r cymeriadau os ydyn nhw'n gweld eu hunain yn y straeon.

"Yn sicr 'da ni am drio cario 'mlaen i gynnal amrywiaeth a chynrychioli pawb achos mae 'na ddiffyg ohono, yn ein barn ni."

Ffynhonnell y llun, Cant a Mil o Freuddwydion

Nid yw'r awduron yn cael unrhyw arian am y gwaith, ond eu gobaith ydy y bydd yn parhau i dyfu.

"Mae pawb gyda chyswllt i'r we... felly mae'n rhywbeth fyse'n gallu mynd tu hwnt i Gymru," meddai Rhiannon.

"Yn amlwg dim ond menter fach ydyn ni ar hyn o bryd, ond gobeithio - hyd yn oed falle mas i'r Wladfa."

Ychwanegodd: "Mae'n rhywbeth all pobl ar draws y byd gael gafael arno, gan bod nhw am ddim."

'Cyfle i bawb ddarllen'

Gan fod cymaint o blant yn treulio amser ar declynnau symudol, mae'r awduron o Gaerdydd hefyd yn gobeithio bod darllen yn "ffordd o roi spin bositif" ar ddefnydd plant o dechnoleg.

Bwriad y ddwy ydy rhyddhau stori arall bob pythefnos, ond maen nhw hefyd yn ystyried cynnal cystadlaethau i ysgrifennu straeon am blant neu ddosbarthiadau ysgol.

Mae Rhiannon hefyd yn ystyried creu ap neu lyfrau traddodiadol hefyd: "Bydd e'n lyfli i bobl o bob cefndir allu cael gafael ar y straeon, achos 'na beth yw e fwy na dim byd - bod yn gyfle i bawb ddarllen yn y Gymraeg."