Pryderon am 'ddiffyg siopau llyfrau annibynnol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cyngor Llyfrau yn rhybuddio y gallai rhagor o siopau llyfrau annibynnol y stryd fawr gau oherwydd yr hinsawdd economaidd bresennol a'r cynnydd yn y defnydd o wefannau rhyngwladol sy'n gwerthu llyfrau.
Daw'r rhybudd ar Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: "Rydym yn ymwybodol iawn ei bod hi'n gyfnod heriol i'r diwydiant cyhoeddi, ac i siopau llyfrau yn arbennig.
"Mae effaith y sefyllfa economaidd i'w gweld yn amlwg ar y stryd fawr.
"Mae'r siopau annibynnol yn parhau'n eithriadol bwysig, ac mae'n allweddol ein bod ni'n annog pobl i'w cefnogi.
"Mae'r Cyngor Llyfrau yn gofalu bod cefnogi siopau yn rhan greiddiol o bob penderfyniad, ac yn annog pawb i ystyried beth fyddai effaith colli'r siopau hyn ar eu cymunedau."
Ychwanegodd Ms Krause ei bod yn ymwybodol bod sawl siop lyfrau wedi gorfod cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond ei bod yn falch bod eraill wedi llwyddo i addasu a ffynnu.
Un siop lyfrau sy'n llwyddo i farchnata a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd yw siop Llyfrau'r Enfys yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful.
Dywedodd Vikki Alexander, perchennog y siop: "Dwi'n teimlo ei bod yn bwysig iawn i'r siopau yma barhau, ac i gefnogi siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.
"Mae'n hanfodol i'r siopau gael cefnogaeth y gymuned leol, ac yma yng Nghanolfan Soar, Merthyr, dyna sut mae'r busnes wedi parhau.
"Dwi'n gweithio'n agos iawn gyda'r ysgolion lleol, ond hefyd yn cynnal digwyddiadau i'r cyhoedd yn y siop gyda chefnogaeth a mewnbwn cwsmeriaid a sefydliadau fel y fenter iaith leol, yr Urdd a Dysgu Cymraeg Morgannwg.
"Dyw rhedeg busnes ddim yn hawdd, ac mae gen i swydd ran-amser fel tiwtor Cymraeg hefyd. Y peth pwysica' i mi yw'r ysbrydoliaeth a'r gwerthfawrogiad sy'n dod gan y bobl dwi'n cwrdd â nhw bob dydd.
"Oherwydd y gefnogaeth, dwi'n teimlo 'mod i bellach yn rhan o rywbeth faswn ni byth wedi medru gwneud hebddo. Felly, y neges bwysig i fusnesau Cymraeg yw i gydweithio'n agos gyda'r cymdeithasau Cymraeg, ac i ni i gyd gefnogi ein gilydd."
Mae Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol yn cael ei chynnal rhwng 15 a 22 Mehefin, gyda'r nod o ddathlu siopau llyfrau annibynnol ar draws y Deyrnas Unedig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd23 Medi 2015