Glaw trwm yn cau ffyrdd a rheilffyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae glaw trwm yn achosi trafferthion ar ffyrdd a rheilffyrdd yn y de wrth i'r Swyddfa Dywydd ddweud bod rhybudd melyn mewn grym nes 23:00 nos Fawrth.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 4:00 a 23:00 mewn siroedd ar draws de Cymru, Powys a Wrecsam, ac mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y gallai'r glaw achosi trafferthion oherwydd llifogydd mewn mannau.
Mae disgwyl hyd at 30mm (1.2 modfedd) o law i syrthio yn y mwyafrif o lefydd, gyda'r posibilrwydd y gallai hyd at 70mm (2.8 modfedd) o law syrthio mewn ambell fan hefyd.
Mae sawl rhybudd mewn grym ar afonydd ledled Cymru yn dilyn y glaw trwm.
Fore Mawrth fe rybuddiodd Heddlu'r De fod angen i yrwyr fod yn ofalus am fod amodau gyrru'n anodd mewn rhannau.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae posibilrwydd hefyd y bydd cyflenwadau trydan ac adnoddau eraill i gartrefi a busnesau yn cael eu colli.
Roedd yr A4107 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Abergwynfi a'r A4061 Ffordd Bwlch-y-Clawdd (Cwmparc) yn dilyn tirlithriad yno.
Fe gyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru hefyd na fydd trenau'n rhedeg rhwng Aberpennar ac Aberdâr am fod llifogydd wedi effeithio ar y llinellau.
Mewn mannau fe allai'r llifogydd beri perygl i fywyd, ac fe allai rhai cymunedau gael eu hynysu gan fod disgwyl i ffyrdd gael eu cau gan ddŵr.
Rhybudd llifogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio bod llifogydd yn bosib mewn sawl ardal yn dilyn y glaw trwm. Mae'r rhybudd 'byddwch yn barod' yn berthnasol i:
Ardaloedd o gwmpas yr afon Glaslyn ac afon Dwyryd, o Dyffyn Ardudwy i Nant Gwynant;
Afonydd dalgylch Nedd;
Afonydd dalgylchoedd Ewenni a gorllewin Bro Morgannwg;
Afon Elai yn Sain Ffagan, Glanelai a Phont Elai;
Afonydd dalgylchoedd Llynfi ac Ogwr.