Teyrngedau wedi gwrthdrawiad angheuol ger Cenarth

  • Cyhoeddwyd
Marcus HeightonFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Marcus Heighton, o ardal Aberteifi, yn dad i ddau o blant

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ddyn 31 oed o ardal Aberteifi a fu farw ddydd Sadwrn wrth yrru ei feic modur.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i ffordd ger Cenarth ddydd Sadwrn, 21 Medi, yn dilyn adroddiadau o ddamwain rhwng dau gerbyd.

Bu farw Marcus Heighton, a oedd yn dad i ddau o blant, yn y fan a'r lle.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei deulu ei fod yn "ddyn annwyl, yn bartner i Sam, yn dad i Edee a Georgia, yn fab i Julia a Mike ac wedi cael ei gymryd oddi wrthyn nhw mewn modd truenus wrth yrru ei feic modur."

Cymeriad 'chwedlonol'

Roedd Mr Heighton yn arfer chwarae i Glwb Rygbi Aberteifi, ac ar eu tudalen Facebook mae'r clwb wedi dweud bod eu meddyliau gyda'i deulu, a'i fod yn gymeriad "chwedlonol".

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Cawsom ein galw i wrthdrawiad ffordd rhwng dau gerbyd am 15:05 brynhawn Sadwrn, 21 Medi, ar yr A484 rhyw 1.5 milltir i'r gogledd o Genarth.

"Y ddau gerbyd a oedd yn ddamwain oedd beic modur Honda 600 coch a Mitsubishi Shogun gwyn.

"Yn drist bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle."

Maen nhw'n apelio ar i unrhyw un a welodd y ddamwain, neu a oedd yn teithio ar y ffordd yr un pryd, i gysylltu â nhw.