Penderfyniad Llafur i aros yn niwtral yn 'gamgymeriad'

  • Cyhoeddwyd
Cynhadledd LlafurFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Safbwynt Llafur ar Brexit ydy'r pwnc trafod mawr yng nghynhadledd y blaid

Mae gweinidog Llafur Cymru wedi dweud fod penderfyniad i aros yn niwtral tra'n ceisio sicrhau cytundeb Brexit newydd yn "gamgymeriad i ddyfodol y wlad".

Roedd Vaughan Gething yn ymateb ar ôl i aelodau'r blaid gefnogi polisi arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Pleidleisiodd cynadleddwyr yn erbyn cynnig oedd yn galw ar y blaid i gefnogi aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Mae un Aelod Cynulliad Llafur yn pryderu fod y blaid eisoes wedi colli'r etholiad nesaf.

Ond dywedodd Mick Antoniw y byddai pobl sydd o blaid aros o fewn yr UE ond yn cael refferendwm arall pe byddan nhw'n pleidleisio dros y Blaid Lafur.

Gwahaniaeth barn

Ddydd Llun fe wnaeth aelodau Llafur yn Brighton bleidleisio i gefnogi safiad Mr Corbyn i aros yn niwtral tra'n trafod cytundeb newydd.

Byddai Llafur wedyn yn cynnal refferendwm o fewn chwe mis, a byddai'r blaid yn penderfynu pa ochr i gefnogi cyn hynny mewn cynhadledd arbennig.

Mae hyn yn mynd yn groes i safbwynt Llafur Cymru, sydd o blaid ymgyrchu i aros mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod y penderfyniad i aros yn niwtral yn "gamgymeriad i ddyfodol y wlad"

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Fel dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd ddoe, mae Llafur Cymru yn cefnogi rhoi'r gair olaf i'r bobl ar Brexit.

"Fe fyddwn ni yn ymgyrchu i'r DU aros yn bartner llawn yn yr UE."

Mewn neges Twitter dywedodd Mr Gething fod penderfyniad y gynhadledd "yn gamgymeriad i Lafur y DU ac yn waeth na hynny yn gamgymeriad i ddyfodol y wlad".