Safbwynt Llafur ar Brexit yn hollti aelodau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae yn corddi o fewn arweinyddiaeth Llafur ynglŷn ag a ddylid rhoi blaenoriaeth i sicrhau refferendwm arall ar Brexit yn hytrach nag etholiad cyffredinol.
Dywed AS Pontypridd Owen Smith ei fod yn cefnogi strategaeth Tom Watson, dirprwy arweinydd Llafur, sy'n ffafrio blaenoriaethu refferendwm gan fynnu y dylai Llafur ymgyrchu yn ddiamod dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Cred eraill o fewn Llafur Cymru, yn eu plith aelodau sy'n cynrychioli etholaethau oedd o blaid gadael yr EU, fod angen parchu barn cefnogwyr traddodiadol y blaid.
Mae safiad Mr Smith, cyn-lefarydd Llafur ar Gymru, a Mr Watson yn groes i safiad Jeremy Corbyn sydd am weld etholiad cyffredinol cyn refferendwm, gan beidio ymrwymo ar sut y dylai llywodraeth Lafur ymgyrchu mewn refferendwm arall.
"Mae Tom Watson yn siarad ar ran y mwyafrif o aelodau Llafur a mwyafrif y pleidleiswyr Llafur wnaeth bleidleisio dros Aros yn 2016," meddai Mr Smith wrth BBC Cymru.
"Mae o'n siarad o blaid gwerthoedd traddodiadol Llafur sy'n Ewropeaidd a ddim yn fewnblyg.
"Pe bai ni yn mynd i ymgyrch etholiad mewn modd canol y ffordd yna byddwn yn cael ein taro lawr."
Ychwanegodd fod Brexit yn rhywbeth fyddai'n newidiol i safon byw ei etholwyr "felly dylwn ei wrthwynebu a dylwn fod yn glir nad yw Llafur yn credu y byddai Brexit yn beth da, ac yn bwysig ni ddylwn gael ein bwlio neu'n drysu gan Boris johnson i gynnal etholiad ar ei delerau ef".
'Testun gwawd'
Dywed Ysgrifennydd Iechyd Cymru y byddai Llafur yn haeddu bod yn destun gwawd pe bai'n addo negydu cytundeb Brexit newydd, tra hefyd yn parhau i gynnig refferendwm arall.
Mae Vaughan Gething yn dweud y dylai Llafur wrthwynebu Brexit ac mae o'r farn nad yw'r safiad presennol yn gwneud synnwyr.
"Ni allwn ofyn i bobl ail drafod cytundeb ac yna o bosib gofyn i etholwyr bleidleisio yn erbyn hynny mewn refferendwm. Byddai hyn yn destun gwawd pe bai'n cael ei gynnwys mewn maniffesto."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, nad oedd yn ei gweld yn "anodd" esbonio safbwynt ei blaid, a bod Llafur yn "parchu barn" y bobl wnaeth bleidleisio i adael.
"Ond yma yng Nghymru, mae'r Blaid Lafur a'r llywodraeth Lafur yn glir, parhau yn yr Undeb Ewropeaidd ydy'r cytundeb gorau posib, a dyna fyddwn ni'n ei gefnogi."
Ond yn ôl yr AC Llafur Mike Hedges, fe ddylai Llafur geisio am y cytundeb gorau posib o ran Brexit.
"Rwy'n cynrychioli etholaeth sydd wedi pleidleisio gyda mwyafrif sylweddol o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd," meddai AC Dwyrain Abertawe.
"Rwy'n cytuno gyda Jeremy Corbyn y dylwn ni gael y cytundeb gorau posib ac yna gofyn i'r etholwyr i ddewis rhwng hynny neu Aros."
Dywed AS Llafur Aberafan, Stephen Kinnock, ei fod o blaid ail-gyflwyno cytundeb gadael Theresa May, ond gan gyda newidiadau.
"Y ffordd i ddatrys y llanast yw nid drwy ail refferendwm na chwaith etholiad cyffredinol, ond drwy adael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb, oherwydd roedd 52%-48% yn fandad sydd angen cyfaddawd - sef i symud tŷ ond i aros o fewn yr un gymdogaeth."
Dyfarniad llys
Yn y cyfamser, mae aelodau seneddol y gwrthbleidiau wedi bod yn ymateb i ddyfarnaid llys yn Yr Alban fod penderfyniad Boris Johsnon i atal y Senedd yn anghyfreithlon.
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU apelio yn derbyn dyfarniad y llys.
Ond yn ôl Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Arfon, dylai'r senedd gael ei alw yn ôl ar unwaith.
"Mae Boris Johnson wedi torri'r gyfraith. Mae o wedi dangos dirmyg o ran democratiaeth, ac mae barnwyr wedi ymyrryd.
"Fe ddylai'r Senedd gael ei ail-alw ar unwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2019
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
- Cyhoeddwyd5 Medi 2019
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019